Gweithgareddau Rheoli’r Trysorlys a Dangosyddion Darbodus Gwirioneddol 2020/2021
PWRPAS YR ADRODDIAD
Rhoi gwybod i Aelodau’r Awdurdod am sefyllfa fenthyciadau a dangosyddion darbodus terfynol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Mae’r adroddiad hwn yn un o ofynion y Cod Darbodus (y Cod).
CRYNODEB GWEITHREDOL
Mae gweithgareddau’r Awdurdod ar gyfer rheoli’r trysorlys yn cael eu rheoleiddio gan godau proffesiynol, statudau a chyfarwyddyd. £26.1m oedd y sefyllfa fenthyca ar 31 Mawrth 2021, ac mae hyn o fewn y terfyn a gymeradwywyd gan yr aelodau. £14m oedd gwerth benthyciadau’r farchnad a oedd yn aeddfedu o fewn 12 mis, ac mae hyn o fewn y terfyn a osodwyd o fewn y strategaeth. Nid oedd ganddo unrhyw fenthyciadau ar gyfradd newidiol yn ystod y flwyddyn ariannol.
ARGYMHELLIAD
Gofynnir i’r Aelodau wneud y canlynol:
(i) nodi’r benthyciadau a oedd yn weddill ar 31 Mawrth 2021; a
(ii) cymeradwyo dangosyddion darbodus terfynol 2020/21.
CEFNDIR
Mae gweithgareddau’r Awdurdod ar gyfer rheoli’r trysorlys yn cael eu rheoleiddio gan godau proffesiynol, statudau a chyfarwyddyd perthnasol. Mae’r gofynion allweddol yn cynnwys llunio Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a dangosyddion darbodus i ddangos bod y penderfyniadau ynghylch cyfalaf a benthyciadau yn rhai fforddiadwy. Cafodd y dogfennau hyn eu cymeradwyo gan yr Awdurdod yn ei gyfarfod ar 16 Mawrth 2020. Mae trefniadau ar gael i fonitro ac adrodd ynghylch y dangosyddion darbodus yn ystod y flwyddyn ariannol ac i adrodd ynghylch y sefyllfa alldro i’r Awdurdod.
Cafodd y dangosyddion darbodus eu hadolygu yn ystod y flwyddyn oherwydd bod y rhaglen gyfalaf wedi cael ei had-drefnu gan arwain at lai o angen i fenthyca yn ystod y flwyddyn. Cafodd y diwygiadau hyn eu cymeradwyo gan yr Awdurdod yn ei gyfarfod ar 9 Tachwedd 2020. Dyma’r adroddiad terfynol ar gyfer 2020/21, ac mae’n darparu dadansoddiad o’r ddyled sy’n weddill ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r adroddiad hwn yn cyd-fynd â Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys a Chod Darbodus CIPFA.
Gwybodaeth
Crynodeb o’r Strategaeth y Cytunwyd arni ar gyfer 2020/2021
Caiff y penderfyniadau o ddydd i ddydd ynghylch benthyca eu dirprwyo i Drysorydd yr Awdurdod, sy’n gorfod sicrhau’r ffurf fwyaf priodol ar fenthyca, gan ddibynnu ar y cyfraddau llog sy’n gyffredin ar y pryd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cyfraddau sefydlog tymor byr, a allai ddarparu cyfleoedd am gostau is yn y tymor byr.
Dim ond ar gyfer cyfalaf gweithio y bydd arian dros ben yn cael ei gadw, a bydd yn cael ei fuddsoddi yn y tymor byr mewn banciau neu gymdeithasau adeiladu. Yn ystod 2020/2021, ni chafodd buddsoddiadau tymor hir eu gwneud gyda’r Awdurdod, a hynny yn unol â’r strategaeth a gymeradwywyd sef y byddai buddsoddiadau’n cael eu dal ar gyfer llif arian parod yn unig.
Gweithgarwch Benthyca
Cymerir benthyciadau i ariannu rhaglen gyfalaf yr Awdurdod. £26.1m oedd y ddyled fenthyca a oedd yn weddill ar 31 Mawrth 2021.
2019/20 | 2020/21 | |||
Cyfraddau | Benthyciadau | Cyfraddau | Benthyciadau | |
Benthyciadau’r Farchnad | 0.85-1.20 | 16,000 | 0.05-0.10 | 14,000 |
Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus | 1.45-4.9 | 14,909 | 1.45-4.9 | 12,119 |
Cyfanswm y Benthyciadau Allanol | 30,909 | 26,119 | ||
2019/20 | 2020/21 | |||
Tymor Byr | Tymor Hir | Tymor Byr | Tymor Hir | |
Benthyciadau’r Farchnad | 16,000 | 0 | 14,000 | 0 |
Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus | 0 | 14,909 | 2,684 | 9,435 |
Cyfanswm y Benthyciadau Allanol | 16,000 | 14,909 | 16,684 | 9,435 |
Mae benthyciadau gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) ar 31 Mawrth 2021 wedi’u nodi isod, a £12.12m oedd eu gwerth:
Proffil aeddfedu benthyciadau’r PWLB ar y dechrau | Cyfanswm yr holl fenthyciadau | Swm (£) |
1 i 2 flynedd | 28.2% | 7.36m |
3 i 5 flynedd | 8.3% | 2.17m |
6 i 10 flynedd | 0.7% | 0.17m |
10 mlynedd a mwy | 9.3% | 2.42m |
Cyfanswm gan PWLB | 46.4% | 12.12m |
Ni chymerwyd unrhyw fenthyciadau newydd gan y PWLB yn ystod y flwyddyn. Mae’r portffolio benthyciadau yn cynnwys benthyciadau Rhandaliadau Cyfartal o’r Prifswm (EIP - Equal Instalment of Principal), a oedd £2.79m yn llai na’r flwyddyn flaenorol.
£14m oedd benthyciadau tymor byr y farchnad ar ddiwedd y flwyddyn, ac roeddent yn ymwneud â benthyca gydag awdurdodau lleol eraill:
Sefydliad | Canran o’r holl fenthyciadau | Swm |
Cyngor East Riding of Yorkshire | 11.5% | 3.0m |
Cyngor Swydd Warwick | 11.5% | 3.0m |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | 30.6% | 8.0m |
Cyfanswm y Benthyciadau Tymor Byr | 53.6% | 14m |
Roedd y benthyciadau hyn yn darparu opsiwn ar gost isel i’r Awdurdod, gan mai 0.085% oedd y gyfradd log gyfartalog, sy’n cymharu’n ffafriol â’r gyfradd o 0.99% a gynigir gan y PWLB i fenthyciadau am flwyddyn.
Fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo 55% fel terfyn uchaf ar gyfer benthyciadau a oedd yn aeddfedu cyn pen 12 mis. Y sefyllfa ar 31 Mawrth 2021 oedd bod 53.6% o’r benthyciadau yn cael eu hystyried yn fenthyciadau tymor byr gydag Awdurdodau Lleol eraill. Roedd gweddill y benthyciadau’n rhai gyda’r PWLB, a chymerir benthyciadau eraill gyda’r PWLP pan fyddant yn aeddfedu.
Mae Strategaeth Rheoli’r Trysorlys yn cadarnhau y dylai’r portffolio benthyciadau fod ag uchafswm o 35% o ddyled mewn benthyciadau amrywiol, a hyd at 100% o fenthyciadau ar gyfnod sefydlog. Yn ystod 2020/21, dim ond ar delerau cyfnod sefydlog y gwnaeth yr Awdurdod fenthyca, a hynny oherwydd y cyfraddau llog sy’n gyffredin ac er mwyn caniatáu sicrwydd.
Yn 2020/21, roedd y benthyciadau gwirioneddol £3.27m yn is na’r gofyniad cyllido cyfalaf a gymeradwywyd, a hynny’n bennaf oherwydd gostyngiadau pellach yn y rhaglen gyfalaf. Talwyd cyfanswm o £0.380m o log, o gymharu â’r gyllideb o £0.568m. Y gyfradd fenthya tymor byr ar gyfartaledd yn y flwyddyn oedd 0.86%, a’r gyfradd tymor hir ar gyfartaledd oedd 2.30%.
Buddsoddiadau
Mae’r egwyddorion sy’n llywodraethu polisi buddsoddi’r Awdurdod wedi’u cynnwys mewn Cyfarwyddyd gan Gynlluniad Cenedlaethol Cymru yn 2003. Roedd y gweithgareddau buddsoddi yn ystod y flwyddyn yn cydymffurfio â’r egwyddorion hyn, ac nid oedd unrhyw anawsterau hylifedd gan yr Awdurdod.
Roedd y strategaeth fuddsoddi ar gyfer 2020/21, a gymeradwywyd gan yr Awdurdod ar 16 Mawrth 2020, yn cynnwys cymeradwyo’r meini prawf canlynol ar gyfer partïon i gontract:
Swyddfa Rheoli Dyledion yn y Trysorlys: terfyn £5.0m
Awdurdodau Lleol (ac eithrio cap ar gyfraddau): terfyn £2.0m
Mae sgoriau da (Fitch neu gyfwerth ag A-) gan holl fanciau’r DU ac Iwerddon, a’u his-gwmnïau – terfyn: £5.0m
Os yw sgoriau banciau’n gostwng yn is na’r rhai sydd yn y tabl uchod, bydd y banciau hynny’n cael eu defnyddio os yw adneuon mawr yn cael eu sicrhau gan warant llywodraeth, ac os yw’r adneuon yn dod o fewn telerau’r warant.
Mae £2.0m o derfyn benthyca gan Gymdeithasau Adeiladu sydd â sgôr (fel ar gyfer y sector bancio). Mae £2m o derfyn, a 9 mis o gyfyngiad amser ar y mwyaf, gan Gymdeithasau Adeiladu sydd heb sgôr ond sydd ag asedau gwerth £1 biliwn neu fwy.
£1.49m oedd balans y buddsoddiadau ar 31 Mawrth 2021, o gymharu â £1.73m ar 31 Mawrth 2020. Er mwyn cynnal sefyllfa hylifedd yn yr Awdurdod, cafodd yr arian ei gadw gan mwyaf mewn cyfrifon galw â mynediad ar unwaith. 0.05% oedd y gyfradd gyfartalog a gafwyd ar y buddsoddiadau. Y gyllideb ar gyfer llog buddsoddiadau oedd dim, a’r llog a gafwyd mewn gwirionedd oedd £0.002m.
Dangosyddion Darbodus
Dan y Cod Darbodus, rhaid i’r Awdurdod gymeradwyo’r dangosyddion darbodus gwirioneddol ar ôl diwedd y flwyddyn, ac maent wedi’u nodi yn Atodiad A. Mae’r tabl isod yn cadarnhau’r terfynau allweddol a gymeradwywyd gan yr Awdurdod, ynghyd â’r alldro ar gyfer 2020/21:
2020/2021 Dangosydd Diwygiedig £’000 | 2020/2021 Gwirioneddol £’000 | |
Sefyllfa fenthyciadau | 27,791 | 26,119 |
Gofyniad Cyllido Cyfalaf (CFR) | 30,551 | 29,389 |
Mae’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf (CFR) yn dangos beth yw’r angen gwaelodol sydd ar yr Awdurdod i fenthyca am resymau cyfalaf. Yn y tymor byr, gallai’r gofyniad i fenthyca fod yn uwch na’r gofyniad cyllido cyfalaf, a hynny oherwydd effaith arian parod a buddsoddiadau. Mae’r tabl uchod yn dangos bod y sefyllfa fenthyciadau gros £3.27m yn is na’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf ar gyfer 2020/21.
Y Terfyn Awdurdodedig yw’r terfyn benthyca fforddiadwy sy’n ofynnol dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Yn ystod 2020/21, mae’r Awdurdod wedi cadw ei fenthyciadau gros o fewn ei Derfyn Awdurdodedig, sef £32.5m.
Y Ffin Weithredol yw’r sefyllfa fenthyca a ddisgwylir yn yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn, ac mae cyfnodau pan fo’r sefyllfa wirioneddol naill ai uwchlaw neu islaw’r Ffin yn dderbyniol, ar yr amod nad yw’r Terfyn Awdurdodedig yn cael ei dorri.
2020/21 £’000 | |
Dangosydd Diwygiedig – Terfyn Awdurdodedig | 32,551 |
Dangosydd Diwygiedig – Ffin Weithredol | 30,551 |
Y sefyllfa fenthyca uchaf yn ystod y flwyddyn | 31,248 |
Y sefyllfa fenthyca isaf yn ystod y flwyddyn | 26,119 |
FFRAMWAITH RHEOLEIDDIO, RISG A PHERFFORMIAD
Mae gweithgareddau rheoli’r trysorlys yn yr Awdurdod yn cael eu rheoleiddio gan godau proffesiynol, statudau a chyfarwyddyd, fel y gwelir isod:
Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 (y Ddeddf) yn darparu’r pwerau i fenthyca ac i fuddsoddi, yn ogystal ag yn darparu rheolaethau a therfynau ar y gweithgarwch hwn. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod terfynau, naill ai ar yr Awdurdod neu yn genedlaethol ar bob awdurdod lleol, i gyfyngu ar y swm y gellir ei benthyca (er na chafodd unrhyw gyfyngiadau eu gwneud yn 2019/20). Dan y Ddeddf, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi Canllaw ar Fuddsoddi i strwythuro a rheoleiddio gweithgareddau buddsoddi’r Awdurdod.
Mae Offeryn Statudol (OS) 3239 (Cy.319) 2003, fel y’i diwygiwyd, yn datblygu’r rheolaethau a’r pwerau o fewn y Ddeddf. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod ystyried Cod Darbodus CIPFA ar Gyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol wrth wneud unrhyw weithgareddau benthyca, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod ystyried Cod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli’r Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus wrth gyflawni’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys yn gyffredinol; mae’r Awdurdod wedi cydymffurfio â’r holl ofynion statudol a rheoleiddiol perthnasol uchod, sy’n cyfyngu ar y lefelau o risg sy’n gysylltiedig â’i weithgareddau rheoli’r trysorlys. Yn nodedig, gan ei fod wedi mabwysiadu a gweithredu’r Cod Darbodus a’r Cod Ymarfer ar gyfer Rheoli’r Trysorlys, mae ei wariant cyfalaf yn ddarbodus, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy, ac mae arferion ei drysorlys yn dangos dull sy’n ymwneud â risgiau isel.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant | Mae cysylltiad rhwng yr adroddiad hwn ac amcanion llesiant tymor hir ATAGC. Mae’r adroddiad yn sicrhau bod asedau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn cael eu prynu mewn modd darbodus, fforddiadwy a chynaliadwy. Mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn digwydd yn y seilwaith i alluogi’r gwasanaeth i ddarparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol. |
Cyllideb | Gosodir y gyllideb bob blwyddyn ar gyfer cyllido cyfalaf, a hynny yn unol ag adroddiad y Trysorlys. |
Cyfreithiol | Mae’r fframwaith rheoleiddiol wedi’i nodi ym mharagraff 18. |
Staffio | Dim |
Cydraddoldeb/ Hawliau Dynol/Y Gymraeg | Dim |
Risgiau | Buddsoddi arian dros ben – mae risg y gallai’r sefydliad ariannol lle mae arian y gwasanaeth yn cael ei fuddsoddi fethu, gan golli rhan o’r prifswm a fuddsoddwyd. Fodd bynnag, un o ddibenion yr adroddiad yw lleihau’r risg hon. |
Atodiad A
Dangosyddion Darbodus
| Dangosyddion Diwygiedig 2020/21 | Gwirioneddo2020/21 | |
1 | Gwariant Cyfalaf | 1,014 | 0 |
2 | Gofyniad Cyllido Cyfalaf | 30,551 | 29,389 |
3 | Benthyca | 27,791 | 26,119 |
4 | Terfyn Awdurdodedig | 32,551 | 32,551 |
5 | Ffin Weithredol | 30,551 | 30,551 |
6 | Cymhareb rhwng Costau Cyllido a Gwariant Net | 7.48% | 6.91% |
7 | Buddsoddiadau | 2,640 | 1,495 |
8 | Benthyciadau cyfraddau llog sefydlog fel % o’r Holl Fenthyciadau | 100% | 100% |
9 | Benthyciadau cyfraddau amrywiol fel % o’r Holl Fenthyciadau | 0% | 0% |
10 | Strwythur Aeddfedu Benthyciadau Cyfradd Sefydlog – ar ddechrau’r benthyciad | ||
Dan 12 mis | 0% - 55% | 53.6% | |
12 mis i 2 flynedd | 0% - 45% | 23.24% | |
2 flynedd i 5 mlynedd | 0% - 45% | 3.13% | |
5 mlynedd i 10 mlynedd | 0% - 75% | 0.87% | |
10 mlynedd a mwy | 0% - 100% | 8.88% |