Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Awdurdod Tân ac Achub

Swyddogaeth yr Awdurdod Tân ac Achub yw:

cyflawni holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau Awdurdod Tân yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau priodol, yn benodol Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 - a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2006, a Chynllun Cyfuno 1995

cytuno ar y cynlluniau gwasanaeth blynyddol, y cyllidebau refeniw a chyfalaf a chyfraniadau'r cynghorau cyfansoddol

monitro'r cyllidebau refeniw a chyfalaf ac ymdrin ag unrhyw amrywiadau sylweddol, gan gynnwys penderfyniadau ynghylch unrhyw gyfraniadau atodol.

Sefydlwyd Awdurdod Tân Gogledd Cymru pan ad-drefnwyd llywodraeth leol ar 1 Ebrill 1996. Mae'n cynnwys 28 o gynghorwyr o'r chwe awdurdod unedol yng Ngogledd Cymru sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (5); Cyngor Sir Ddinbych (4); Cyngor Sir y Fflint (6); Cyngor Gwynedd (5); Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (5) a Chyngor Sir Ynys Môn (3). Ar sail maint y boblogaeth y penderfynir ar nifer cynrychiolwyr pob awdurdod.

Cynhelir cyfarfodydd yr Awdurdod llawn fel arfer bedair gwaith y flwyddyn - ym mis Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr - i ystyried pynciau megis cynlluniau gwasanaeth, materion busnes arferol, cyllidebau a gwariant, a gwneud neu gymeradwyo penderfyniadau ynglyn â pholisau fel bo'n briodol. Gellir galw cyfarfodydd arbennig ar unrhyw adeg os oes angen trafod materion brys.

Etholir y Cadeirydd a'r is-Gadeirydd yn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Mehefin.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch swyddogaeth yr Awdurdod Tân ac Achub a'r canllawiau cyffredinol sy'n berthnasol iddo i'w gweld yn Rheolau Sefydlog yr Awdurdod - dilynwch y ddolen Cyfansoddiad yr Awdurdod ar waelod y dudalen hon, neu gellir gofyn am wybodaeth gan Swyddog Cyswllt yr Aelodau ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Llanelwy.

Cynhelir y cyfarfodydd ar draws y Gogledd, ac maent yn agored i'r cyhoedd. Petai unrhyw aelod o'r cyhoedd yn dymuno codi rhyw fater yn un o'r cyfarfodydd hyn, dylent gysylltu â naill ai Swyddfa Prif Weithredwr eu cyngor cyfansoddol neu Glerc yr Awdurdod Tân ac Achub, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NB. (01352) 702100.

Mae adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd yr Awdurdod i'w gweld isod, neu ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Llanelwy.

Yma gallwch gael:

Cyfansoddiad yr Awdurdod

Aelodau Awdurdod Tân ac Achub

Cyfarfodydd Awdurdod Tân ac Achub - 2019 ymlaen

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen