Cadw'n ddiogel yn ystod y gaeaf
Cadw'n ddiogel yn ystod y gaeaf
Cadw'n gynnes ond yn ddiogel y Gaeaf hwn
Mae'n bwysig eich bod yn dilyn y cyngor diogelwch canlynol i'ch helpu i leihau'r perygl o dân yn y cartref wrth i chwi wneud mwy i gadw'n gynnes.
- Byddwch yn ofalus gyda thanau agored. Defnyddiwch gard tân a gwnewch yn siwr bod eich simnai yn lân.
- Cadwch wresogyddion cludadwy ymhell oddi wrth lenni a dodrefn. Peidiwch byth â'u gorchuddio ag unrhyw beth.
- Storiwch flancedi trydan yn fflat neu rholiwch nhw, peidiwch byth â'u plygu. Peidiwch â'u defnyddio os ydi'r gwifrau'n hen neu wedi eu difrodi.
- Cadwch ganhwyllau ar i fyny, mewn daliwr canhwyllau addas. Peidiwch byth â'u gadael heb neb i gadw llygaid arnnt. Diffoddwch nhw yn llwyr.
- Os bydd toriad pwer a bod gennych larymau mwg sydd wedi eu cysylltu i'r prif gyflenwad trydan, edrychwch i weld â yw'r batri wrth gefn yn gweithio.
Os bydd tân, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.
Cliciwch yma i ddarllen y daflen Cadw'n Ddiogel y Gaeaf Hwn.
Cliciwch yma i ddarllen cyngor Llywodraeth Cymru ar Dywydd Garw.