Cyngor ar gadw'n ddiogel yn ystod y Gaeaf
Cadw'n gynnes a diogel y gaeaf hwn
Mae'n bwysig eich bod yn dilyn y cyngor diogelwch canlynol i'ch helpu i leihau'r perygl o dân yn y cartref wrth i chwi wneud mwy i gadw'n gynnes.
- Cymrwch bwyll gyda thanau agored
- Defnyddiwch gard tân a gwnewch yn siwr bod eich simai yn lân
- Cadwch wresogyddion cludadwy ymhell oddi wrth lenni a dodrefn
- Peidiwch byth â'u gorchuddio â dim
- Storiwch flancedi trydan yn fflat neu rholiwch hwy, peidiwch byth â'u plygu a p idiwch â'u defnyddio os ydi'r gwifrau'n hen neu wedi eu difrodi
- Cadwch ganhwyllau ar i fyny, mewn dalwr canhwyllau addas - peidiwch byth â'u gadael heb neb i gadw llygaid arnnt a diffoddwch hwy yn llwyr
- Os bydd toriad pŵer a bod gennych larymau mwg sydd wedi eu cysylltu i'r prif gyflenwad trydan, edrychwch i weld â yw'r batri wrth gefn yn gweithio
- Os bydd tân, ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.
Cliciwch yma am lyfryn newydd ‘Byddwch yn ddiogel y gaeaf hwn’ yn cynnwys cyngor a gweithgareddau i blant.
Cliciwch yma i ddarllen y daflen Cadw'n Ddiogel y Gaeaf Hwn.
Cliciwch yma i ddarllen cyngor Llywodraeth Cymru ar Dywydd Garw.