Rhew a phibellau wedi byrstio
Rhew a phibellau wedi byrstio
Delio gyda phibellau sydd wedi byrstio
Cynghorir trigolion sydd gan bibellau wedi byrstio neu broblemau trydanol oherwydd y tywydd oer i ynysu'r cyflenwad ddwr neu drydan os yw hynny'n bosibl a chysylltu â gweithiwr medrus i drwsio'r bibell - nid y gwasanaeth tân ac achub.
Os digwydd i bibellau fyrstio:
- Diffoddwch y prif gyflenwad ddwr a gwagiwch y system drwy adael y tapiau dwr oer i redeg.
- Diffoddwch y system gwresogi dwr a gwagiwch y system drwy adael y tapiau dwr poeth i redeg.
- Diffoddwch y trydan.
- Galwch weithiwr proffesiynol i drwsio'r difrod.
I atal pibellau rhag achosi difrod yn eich cartref y gaeaf hwn:
- Insiwleiddiwch eich atig a'ch tanciau dwr.
- Insiwleiddiwch yr holl bibellau.
- Agorwch drapddor yr atig i adael gwres i mewn ar ddiwrnodau oer.
- Os byddwch yn mynd i ffwrdd am gyfnod, gofynnwch i ffrind neu berthynas gadw llygaid ar eich cartref a gwneud yn siwr nad ydy'r pibellau wedi byrstio neu rewi.
- Rhowch wasieri newydd ar dapiau sy'n gollwn rhag ofn iddynt rewi a blocio'r bibell.
- Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod lle mae'r stop tap ac edrychwch yn rheolaidd i weld os oes modd i chi ei gau mewn argyfwng.
- Pan fydd hi'n oer iawn, cadwch y gwres ymlaen yn isel iawn drwy gydol y dydd, neu gofalwch ei fod yn dod ymlaen ambell waith y dydd, yn enwedig os ydych yn mynd i ffwrdd.