Gwersylla
Gwersylla
Dilynwch y canllawiau isod i gadw'n ddiogel wrth wersylla.
Yn ddelfrydol fe ddylech adael o leiaf 6 medr rhwng pob pabell.
Cadwch dortsh wrth law.
- Peidiwch byth â thanio cannwyll neu unrhyw beth sydd â fflam noeth mewn pabell neu wrth ymyl pabell.
- Cadwch danwyr a mastys ymhell o gyrraedd plant
- Coginiwch y tu allan i'r babell ac ymhell o'r babell, waeth pa mor fawr ydi hi
- Peidiwch byth â defnyddio offer coginio mewn pebyll bychan
- Peidiwch byth â choginio ger defnyddiau fflamadwy neu laswellt hir
- Cadwch hylifau fflamadwy a silindrau nwy ymhell o'r babell
- Peidiwch byth ag ysmygu y tu mewn i'r babell
- Fe all tân ddinistrio pabell mewn 60 eiliad felly lluniwch gynllun dianc a byddwch yn barod i dorri'r babell er mwyn medru mynd allan mewn achos o dân
- Gwnewch yn siwr bod pawb yn gwybod beth i'w wneud os aiff eu dillad ar dân - stopio, disgyn a rholio i ddiffodd y fflamau. .
- Os aiff dillad rhywun arall ar dân dywedwch wrthynt , neu gorfodwch hwy i ddisgyn a cheisiwch lethu'r fflamau gyda blanced neu ddarn mawr o ddefnydd i lonyddu'r fflamau, a dywedwch wrthynt rolio.
- Gofynnwch beth yw'r trefniadau diogelwch tân ar y safle
- Os nad oes gennych chi ffôn symudol gofynnwch lle mae'r ffôn agosaf.
Am ragor o wybodaeth ar wersylla diogel cliciwch yma.