Her Fawr yr Haf
Gyda’r gwyliau ysgol ar ein gwarthaf, mae Gwasanaethau Brys ledled Gogledd Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod pawb yn cael haf diogel a phleserus. Eleni, mae Heddlu Gogledd Cymru, PACT a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi cyfle i ennill arian parod ar gyfer eu clwb / grwp / ysgol. Rydym yn annog grwpiau ieuenctid ledled Gogledd Cymru er mwyn cymryd rhan yn Her Fawr yr Haf - Ffordd wych o wneud argraff yn eich cymuned a bod â’r cyfle o ennill arian!
ENILLWCH ARIAN AR GYFER EICH CLWB, GRWP NEU YSGOL!
• Gwobr 1af £750, 2il Wobr £500 a 3ydd Wobr £250 - a gwobrau ariannol pellach i’w hennill!
• Cynhaliwch brosiect sy’n cynorthwyo gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill
• Ar agor i bobl ifanc rhwng 5 a 18 oed
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma
Ar gyfer arweinlyfr Her Fawr yr Haf, cliciwch yma.
I gofrestru eich grŵp, cliciwch yma.