Gwybodaeth i Ofalwyr
Fel rhan o weithio mewn partneriaeth barhaus, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymdrechu i weithio'n agos gyda gofalwyr yn y gymuned i addysgu a hyrwyddo diogelwch tân yn y cartref ar gyfer aelodau bregus o'n cymuned.
Trwy addysg a chodi ymwybyddiaeth o risgiau diogelwch tân yn y cartref, gall gofalwyr atgyfeirio preswylwyr am ‘Gwiriad Diogel ac Iach’. Ymweliad diogelwch tân cartref am ddim yw Gwiriad Diogel ac Iach, wedi'i deilwra i anghenion unigolyn a all gefnogi aelodau o'n cymuned i helpu i'w amddiffyn a'u cartref rhag tân.
Yn ystod Gwiriad Diogel ac Iach bydd ein staff yn cynghori preswylwyr ar ddiogelwch yn y cartref a gallant hefyd gynnig ymyriadau am ddim fel synwyryddion mwg, synwyryddion carbon monocsid, systemau niwlio diffodd tân ac offer craff fel ynysyddion popty.
Fel Gwasanaeth rydym yn dibynnu ar gynnal cyfathrebu â gofalwyr i atgyfeirio aelodau bregus o'n cymunedau am ymweliad Diogel ac Iaich.
Mae gweithio'n agos gyda gofalwyr yn rhan annatod o'n cenhadaeth i wneud cartrefi yn fwy diogel i aelodau mwyaf bregus ein cymuned.