Elïau Lleddfol
Risgiau defnyddio elïau lleddfol
Mae elïau lleddfol yn cael eu defnyddio i drin cyflyrau croen sych, megis ecsema soriasis.
Maent hefyd yn cael eu defnyddio gan gleifion sydd mewn perygl o ddatblygu briwiau am eu bod yn treulio cyfnodau maith yn y gwely oherwydd salwch neu broblemau symudedd.
Maent ar gael fel elïau, trwythau a geliau. Maent yn gorchuddio’r croen er mwyn ei gadw’n llaith.
Trwy ddefnyddio’r elïau hyn yn rheolaidd, dros nifer o ddiwrnodau, fe allant ymdreiddio i ddillad, dillad gwely a rhwymynnu neu orchuddion. Fe all elïau sydd wedi sychu ar ffabrig dros amser achosi risg tân. Os daw’r ffabrig i gysylltiad â ffynonellau tanio neu wres, fe all tân ddatblygu’n hawdd iawn gan losgi’n ffyrnig a lledaenu’n gyflym.
Felly, mae risg o losgiadau difrifol neu angheuol yn gysylltiedig â defnyddio elïau lleddfol - mae hyn yn wir ar gyfer pob math o elïau lleddfol sy’n cynnwys paraffin, waeth faint o baraffin sydd wedi ei gynnwys ynddynt. Mae’r data hefyd yn awgrymu bod elïau heb baraffin hefyd yn achosi risg.
Yn genedlaethol, dros y 10 mlynedd diwethaf cafwyd nifer uchel o farwolaethau yn gysylltiedig ag elïau lleddfol.
Sut alla i wneud yn siŵr fy mod i’n ddiogel?
- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.
- Peidiwch ag ysmygu na defnyddio fflamau agored os ydi’ch dillad neu’ch rhwymau’n debygol o fod wedi eu halogi gan eli.
- Cofiwch ei bod hi yr un mor beryglus bod yn agos at bobl eraill sydd yn ysmygu neu’n defnyddio fflamau agored.
- Peidiwch â choginio os ydi’ch os ydi’ch dillad neu’ch rhwymau’n debygol o fod wedi eu halogi gan eli.
- Peidiwch ag eistedd yn rhy agos at danau agored, tanau nwy neu wresogyddion halogen.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n newid eich dillad a’ch dillad gwely yn rheolaidd, gorau oll bob dydd.
- Gofalwch nad ydi’r eli’n ymdreiddio i gadeiriau, seddi neu ddodrefn eraill.
- Golchwch eich dillad a’ch dillad gwely ar y tymheredd uchaf posibl gan gadw at y cyfarwyddiadau golchi. Mae hyn er mwyn cael gwared ar yr eli ond efallai na fydd yn cael gwared arno’n gyfan gwbl
- Dywedwch wrth eich teulu neu ofalwyr am eich triniaeth.
- Os ydych chi’n ysmygu, dywedwch wrth eich meddyg, nyrs neu fferyllydd. Fe allant gynnig help a chyngor er mwyn i chi roi’r gorau i smygu.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU.
Dogfen Perygl o Dân Wrth ddefnyddio eli croen seiliedig ar Baraffin ar orchudd briw neu ddillad