Diogelwch Tân i Fusnesau yn ystod COVID-19
Diogelwch Tân i Fusnesau –
Cadw’ch safle yn ddiogel yn ystod y cyfnod atal
Os oes raid i chi gau’ch busnes chi bydd yr wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i ddiogelu’ch safle ac atal tân:
Llosgi Bwriadol - mae’n bwysig eich bod yn diogleu’ch safle i atal y risg o losgi bwriadol.
Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar danwydd neu ffynonellau tanio a all hwyluso lledaeniad tân.
Sicrhau bod giatiau a ffensys wedi eu cau a’u cloi a gosod CCTV gweithredol.
Fe all systemau diogelwch a golau allanol helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a all arwain at losgi bwriadol.
Dulliau dianc a rennir - ni ddylech, wrth ddiogelu’ch safle chi, amharu ar ddulliau dianc safleoedd eraill sydd yn dal ar agor, adeiladau preswyl neu gytundebau hawliau tramwyfa.
Dylid cadw dulliau amddiffyn mewnol megis drysau tân ar gau ac mewn cyflwr da gan eu bod yn hanfodol i amddiffyn mewn achos o dân.
Dylech barhau i brofi a chynnal a chadw systemau larwm tân lle bo hynny’n bosibl, yn enwedig os ydi’r system larwm a synhwyro tân ar gyfer safleoedd niferus, rhai a all fod yn weithredol o hyd.
Drysau tân mewnol
Oherwydd y rhagofalon Covid-19 parhaus, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cydnabod bod pobl sydd yn gyfrifol am safleoedd yn dymuno cadw drysau tân mewnol ar agor er mwyn helpu i atal y feirws; fodd bynnag, mae hyn yn dderbyniol dim ond os ydi’r ddyfais ‘cadw ar agor’ wedi ei dylunio i weithredu a chau pan fydd y larwm tân yn canu, yn ddelfrydol dyfeisiadau electromagnetig neu ‘Dorgards’.
Nid yw’n dderbyniol lletemu neu ddal drysau tân ar agor a dylid osgoi gwneud hyn, gan y gallai’r arfer hyn olygu nad ydi’r safle yn cydymffurfio’n llawn gyda gofynion Gorchymyn Diogelwch Tân 2005 - Erthygl 8 (Rhagofalon Tân Cyffredinol) a 14 (Dulliau dianc).
Fe all lletemu drysau tân arwain at golli rhan sylweddol o’r adeilad o ganlyniad i ledaeniad tân, gwres a mwg rhwng rhannau o’r adeilad oherwydd nad ydi’r drysau tân yno i wahanu’r adrannau.
Rhaid profi’r holl fesurau diogelwch tân yn yr adeilad, megis systemau larwm tân, i wneud yn siŵr eu bod yn weithredol, ac oes angen rhaid delio gydag unrhyw faterion cyn ail-feddiannu’r adeilad.
Rhaid diweddaru’r asesiad risgiau tân yn ogystal os ydi adeiladau’n cael eu defnyddio i ddiben gwahanol oherwydd y sefyllfa covid-19, er enghraifft dylid adlewyrchu yn yr asesiad risgiau tân os mai dim ond un rhan o adeilad sy’n cael ei ddefnyddio, neu ei fod yn cael ei feddiannu ar wahanol amseroedd i’r rhai cyn y pandemig.
Cyngor i fusnesau sy’n dychwelyd i’r gweithle ar ôl cyfnod clo
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i helpu busnesau i weithredu’n ddiogel yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub y De a Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin, mae dogfen gyfarwyddyd wedi cael ei chreu i ddarparu gwybodaeth a chyngor i fusnesau ynglŷn â dychwelyd yn ddiogel i’r gweithle yn dilyn cyfnodau clo - cliciwch yma i'w weld.