Ydych chi berchen, yn gweithredu a/neu’n byw mewn safle masnachol a phreswyl cymysg?
Mae llety preswyl fel arfer uwch ben neu o fewn safleoedd masnachol. Fe all tân mewn safle masnachol effeithiol ar ardaloedd preswyl yr adeilad, a chyda’r nos mae’n bosibl na fydd neb yn sylwi ar y tân tan ei bod hi’n rhy hwyr.
Heb barwydydd tân digonol rhwng y safle masnachol a phreswyl fe all tân mewn siop olygu colli’ch cartref. Heb drefniadau addas i rybuddio a llwybrau dianc diogel, fe all tân mewn busnes eich lladd. Rhaid i breswylwyr gael rhybudd o dân ac mae’n rhaid iddynt allu dianc o’r adeilad yn ddiogel.
Yn aml iawn bydd Archwilwyr Diogelwch Tân yn dod wyneb yn wyneb â sefyllfaoedd peryglus mewn safleoedd busnes a all effeithio ar yr ardaloedd y mae pobl yn byw a chysgu ynddynt, yn cynnwys:
- Mynediad i’r llety cysgu drwy’r siop
- Storio stoc ar hyd llwybrau dianc/blocio llwybrau dianc gyda biniau a sbwriel eraill
- Pentyrru eitemau hylosg (ee bocsys cardfwrdd a chartonau bwyd)
- Dim larymau tân neu larymau tân a threfniadau rhybuddio annigonol
- Allanfeydd wedi cloi neu’n anodd i’w hagor
- Tyllau mewn parwydydd, lloriau a nenfydau sydd yn caniatáu lledaeniad mwg a thân
- Gwyntyllau echdynnu heb gael eu glanhau na’u cynnal a’u cadw’n iawn yn y gegin
- Dim offer diffodd tân neu offer annigonol
- Heb archwilio na chynnal a chadw gosodiadau trydan yn iawn neu ddim o gwbl
Os ydych chi’n gyfrifol am safleoedd o’r fath rydych yn torri’r gyfraith os ydych chi’n peryglu bywydau. Fe allwn archwilio’ch safle fel rhan o’n cyfrifoldeb i orfodi’r gyfraith. Fe allwn gymryd camau gorfodi cyfreithiol os nad ydych chi’n cyflwyno gwelliannau i gadw pobl yn ddiogel. Os darganfyddwn risg tân difrifol fe allwn eich atal rhag defnyddio rhan o’r salfe neu’r safle cyfan; fe allwch orfod cau’ch busnes ac fe all y bobl sydd yn byw ar y safle orfod dod o hyd i rywle arall i aros. Fe allwch hefyd gael dirwy sylweddol neu gyfnod o garchar am dorri’r gyfraith.
Os hoffech siarad gydag un o’n Swyddogion Diogelwch Tân i Fusnesau i gael cyngor RHAD AC AM DDIM, neu os oes gennych bryderon am ddiogelwch pobl ar safleoedd o’r fath, cysylltwch â’ch Swyddfa Diogelwch Tân leol.:
Gwynedd/ Môn: 01286 662999 Gwynedd.Mon@tangogleddcymru.llyw.cymru
Flintshire/ Wrexham: 01978 367870 Fflint.Wrecsam@tangogleddcymru.llyw.cymru
Denbighshire/ Conwy: 01745 352777 Conwy.Dinbych@tangogleddcymru.llyw.cymru