E-sigaréts
E-sigaréts
Mae sigaréts electronig, sydd hefyd yn cael eu galw'n e-sigaréts, yn troi hylif yn niwl erosol, sydd yn dynwared yr arfer o ysmygu tybaco.
Mae gan e-sigaréts fatri i bweru'r anweddydd ac mae'n rhaid ailwefru'r batri yn rheolaidd. Mae nifer o achosion wedi cael sylw yn genedlaethol wedi i'r batris hyn orboethi neu ffrwydro wrth gael eu gwefru.
Mae e-sigaréts yn cynnwys batris lithiwm ïon; a gwyddwn bod y batris hyn wedi achosi tanau yn y gorffennol oherwydd adwaith thermol a achosir drwy orboethi'r batri, difrod ffisegol neu nam yn y batri ynn ystod y broses gynhyrchu.
Cynghorir y cyhoedd i ddilyn cyfarwyddiadau a chyngor y gwneuthurwr bob amser wrth wefru batri eu e-sigarét.
Nid oes gan bob e-sigaréts blwg. Maent yn cael eu gwefru drwy gysylltu'r batri i borth USB ac yna i liniadur; ac felly mae'n bwysig iawn eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr mewn perthynas ag amseroedd gwefru.
Dylida'r addasyddion pwer sy'n cael eu defnyddio i wefru e-sigaréts gydymffurfio â Rheoliadau (Diogelwch) Offer Trydanol 1994 a Rheoliadau Cydweddoldeb Electromagnetig 2006. Fe ddylai'r marciau canlynol fod arnynt:
- Marc CE
- Enw neu nod masnachu'r gwneuthurwr neu'r gwerthwr cyfrifol.
- Adnabyddwr unigryw e.e. model, math, rhif batsh / cyfresol
- Cyfradd foltedd, pwer/cerrynt ac amledd/.
Yn ddiweddar rydym wedi gweld cynnydd mewn e-sigaréts heb eu brandio; ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Mae'r peryglon sydd ynghlwm a'r rhain yn cynnwys:
- Gwifrau heb eu hadfer yn fecanyddol.
- Dim cyfarwyddiadau.
- Gwefrydd yn gorboethi.
- Posibilrwydd o dân.
- Plwg sydd ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau.
- Sioc drydanol o ganlyniad i'r darnau eilaidd.
Fe'ch argymhellir i ddefnyddio'r gwefrydd a'r batri a ddaeth gyda'r e-sigarét yn unig.