Gofalu am offer trydanol
Gofalu am offer trydanol
Dyfeisiau Cerrynt Gweddilliol (RCD)
Mae'r Cyngor Diogelwch Trydanol yn annog perchnogion tai i ddefnyddio Dyfeisiau Cerrynt Gweddillio i amddiffyn eu hunain rhag siociau trydanol a lleihau'r perygl o danau trydanol.
Mae'r Ddyfais Cerrynt Gweddilliol yn ddyfais sensitif iawn sydd yn diffodd cyflenwadau trydan pan fydd yn synhwyro perygl gan leihau'r perygl o farwolaeth neu anafiadau difrifol. Mae'n hynod bwysig eich bod yn defnyddio Dyfais Cerrynt Gweddillion os ydych yn defnyddio cyfarpar trydanol yn yr awyr agored.
Cofiwch - Er bod Dyfeisiau Cerrynt Gweddilliol yn lleihau'r perygl o farwolaeth neu sioc drydanol nid yw'n golygu nad oes raid i chi gymryd pwyll. Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi , eich teulu a'ch cartref yn ddiogel gwnewch yn siŵr eich bod yn profi eich gwifrau trydan o leiaf unwaith bob 10 mlynedd. Os oes nam ar y gwifrau, neu ar gyfarpar, rhowch gorau i'w defnyddio ar unwaith a chysylltwch â thrydanwr cofrestredig.
Cadw llygaid ar gyfarpar trydanol
Dylech gadw llygaid ar yr holl gyfarpar trydanol sydd yn eich cartref rhag arwyddion perygl.
Os credwch fod angen trwsio neu newid unrhyw beth, gwnewch hynny ar unwaith.
Plygiau a Socedi
Cadwch lygaid ar blygiad a socedi rhag y canlynol:
- Gwiriwch eich socedi’n rheolaidd – os byddwch chi’n gweld marciau llosgi neu os byddan nhw’n teimlo’n boeth, gofynnwch i drydanwr cofrestredig wirio a oes angen eu trwsio neu gael rhai newydd.
plygiau wedi eu gwifrio yn wael - gall unrhyw wifrau lliw sydd yn dod allan o'r plwg ddod yn rhydd a gall malurion fynd i mewn i'r plwg
socedi wedi eu gorlwytho - gall socedi orboethi os oes gormod o gyfarpar trydanol wedi eu plygio i mewn i'r un soced
Ceblau a lidiau
Mae'r risgiau yn cynnwys:
- ceblau a lidiau sydd wedi treulio neu wedi eu difrodi - gwnewch yn siŵr bod y gorchudd allanol mewn cyflwr da a rhowch un arall yn ei le os oes raid
- ceblau a lidiau sydd wedi eu lleoli'n wael - ni ddylid eu gosod mewn mannau lle gellid baglu drostynt, neu'n agos at ddŵr, poptai neu ffynonellau gwers eraill
- ceblau a lidiau sydd wedi eu gosod dan garpedi neu rygiau mae peryg' iddynt dreulio heb i neb sylwi - gosodwch hwy mewn man arall
Cyfarpar
Ni ddylech fyth:
- wlychu cyfarpar trydanol - mae'r rhain yn cynnwys plygiau a socedi, felly peidiwch â gwneud pethau fel gosod fâs yn llawn blodau ar ben eich set deledu
- gadael cyfarpar trydanol ymlaen dros nos - oni bai eu bod wedi eu dylunio i gael eu gadael ymlaen, e.e. rhewgelloedd
- rhoi unrhyw beth sydd wedi ei wneud o fetel, neu sydd gan orffeniad neu rannau metel, yn y ficrodon
Cadw eitemau trydanol mewn cyflwr gweithredol da
Dylid gwneud yn siŵr bod cyfarpar trydanol, yn enwedig rhai sydd yn rhedeg ar gyflymder uchel ac yn cynnwys motorau, fel peiriannau golchi, yn cael eu gwasanaethu unwaith y flwyddyn gan drydanwr cymwysedig.
Dylid defnyddio plygiau, socedi a cheblau yn y modd cywir, dylech:
- wneud yn siŵr nad oes gwifrau lliw rhwng y plwg a'r lîd
- gwneud yn siŵr nad ydi'r gwifrau yn rhydd y tu mewn i'r plwg
- defnyddio socedau'n ddiogel - mae'n well defnyddio addasydd bar (aml fwrdd) sydd gan lîd nac addasydd bloc
- defnyddio dim ond un addasydd ymhob soced - peidiwch â phlygio un addasydd i mewn i un arall a defnyddiwch dim ond un plwg ymhob soced
Peidiwch â storio deunyddiau llosgadwy (dillad, papur, deunyddiau glanhau ac ati) yn agos at ben y gwasanaeth (ffiws datgysylltu), mesurydd trydan neu focs ffiws, yn enwedig os yw’r rhain o dan y grisiau (modd o ddianc o’r lefelau uwch mewn argyfwng)
Bydd offer trydanol llaw, fel sychwr gwallt a theclynnau sythu gwallt, yn mynd yn boeth fel arfer. Gwnewch yn siŵr eich bod, ar ôl gorffen eu defnyddio, yn eu diffodd, yn tynnu’r plwg allan ac yn eu rhoi i gadw, a’r gorau oll fyddai cadw teclynnau sythu gwallt a nwyddau harddwch o’r fath mewn bag sy’n gwrthsefyll gwres. - Y mae terfyn ar nifer yr ampau y dylid eu defnyddio mewn lidiau estyn ac addasyddion, felly peidiwch â'u gorlwytho rhag ofn i chi achosi tân
Peiriannau Cegin
- Peidiwch â gadael peiriannau golchi, peiriannau sychu dillad neu beiriannau golchi llestri yn rhedeg dros nos neu pan fyddwch allan.
- Os bydd eich peiriannau’n dechrau gwneud sŵn rhyfedd neu os nad ydynt yn gweithio’n iawn, peidiwch ag anwybyddu hynny. Os ydych chi’n meddwl fod problem, tynnwch y plwg allan bob amser a chysylltu â’r gwneuthurwr neu dechnegydd trwsio cymwys.
- Peidiwch â gorlwytho peiriannau golchi neu beiriannau sychu dillad – ewch ag eitemau mawr fel ‘duvet’ i’r siop sych-lanhau.
- Edrycwch ar y plygiau a’r socedi’n rheolaidd i weld a oes olion llosgi, sŵn ‘gwreichioni’ (sŵn siffrwd neu glecian), ffiwsys yn chwythu, torwyr cylched yn ymryddhau neu os yw’n teimlo’n rhy boeth i’w gyffwrdd.
- Peidiwch â gosod oergell neu regwell wrth ymyl cwcer, rheiddiadur nac yn uniongyrchol yng ngolau’r haul, oherwydd bydd rhaid iddynt weithio’n galetach i gadw’r tymheredd mewnol angenrheidiol.
- Glanhawch y tu ôl i’r oergell a’r rhewgell yn rheolaidd rhag i fflwcs a llwch hel, a gwnewch yn siŵr fod digon o le y tu ôl i’r peiriant i’r aer allu cylchredeg yn rhwydd.
Delio gyda thân trydanol
Pe byddai tân trydanol yn cynnau, tynnwch y plwg neu diffoddwch y pŵer yn y bocs ffiws - os yw'n ddiogel gwneud hynny. Weithiau gall hyn atal y tân ar unwaith.
Peidiwch byth â defnyddio dŵr i geisio diffodd tân trydanol, a pheidiwch â pheryglu'ch hun - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.
Am archwiliad diogelwch yn y cartref galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234.
Cofrestru’ch cyfarpar
Mae dewis cofrestru’ch cyfarpar yn benderfyniad doeth.
Weithiau, mae gwneuthurwyr yn dod o hyd i broblemau gyda chyfarpar sydd wedi bod yn cael eu defnyddio ers tro. Byddant yn cysylltu gyda chi i gywiro’r nam cyn gynted â phosib. Fel arfer bydd technegydd cymwys yn gallu cywiro’r nam yn gyflym yn y cartref i gael gwared ar y risg.
Yn aml iawn mae’n anodd dod o hyd i gwsmeriaid gan nad ydynt fel arfer yn rhoi manylion cyswllt pan fyddant yn prynu’r cyfarpar. Felly mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn cymryd cyfrifoldeb am hyn drwy hysbysebu’r gwneuthurwr fel y gallant gysylltu â hwy’n uniongyrchol pan fydd angen.
Gallwch hefyd arbed arian drwy gofrestru’ch cyfarpar gan fod hyn yn aml iawn yn rhoi hawl i chi gael ymestyn gwarant y cyfarpar .