Diogelwch Nwyddau Gwyn
Diogelwch Nwyddau Gwyn
Mae 'nwyddau gwyn' yn cyfeirio at gyfarpar trydanol y gallwch chi eu defnyddio yn y cartref megis periannau sychu dillad, golchi dillad, golchi llestri neu rhewgelloedd/oergelloedd.
Fe all nwyddau gwyn achosi tanau os nad ydych yn cymryd pwyll neu'n dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr wrth eu defnyddio.
Lawrlwythwch eich canllaw nwyddau gwyn yn rhad ac am ddim yma.
Cofiwch gofrestru eich dyfeisiau yn www.registermyappliance.org.uk, a fydd yn galluogi'r gwneuthurwyr i gysylltu â chi os bydd unrhyw ddiffygion yn dod i'r amlwg, neu os cyhoeddir unrhyw hysbysiadau adalw.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan wneuthurwyr am ddiffygion, neu am ddyfeisiau sydd wedi cael eu hadalw, ar wefan Electrical Safety First: www.electricalsafetyfirst.org.uk
Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg sy'n gweithio, a'ch bod yn ei brofi'n rheolaidd – rydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn unwaith yr wythnos! Dylech hefyd sicrhau bod gennych gynllun dianc ar eich cyfer chi a'ch teulu pe byddai tân yn eich cartref – ac ar ôl i chi ddianc o'r tŷ, dylech aros allan ar bob cyfrif, a pheidio byth â mynd yn ôl i mewn.
Dyma isod rai o'r camau syml y dylai pob un ohonom eu dilyn a gallwch wylio ein fideos diogelwch yma.:
- Peidiwch â gorlwytho socedi â phlygiau – mae watedd uchel peiriant sychu dillad yn golygu bod arno angen ei soced 13 amp ei hun. Cadwch lygad am unrhyw farciau llosgi, ac archwiliwch unrhyw wifrau trydanol sy'n weladwy.
- Peidiwch â gadael peiriannau heb neb yn cadw golwg arnynt – peidiwch â rhoi dillad i sychu yn y peiriant cyn gadael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys motorau pwerus â rhannau sy'n symud yn gyflym, ac mae'r rhain yn mynd yn boeth iawn.
- Dylech bob amser lanhau yr hidlwr ar ol defnyddio eich periant sychu dillad.
- Gofalwch fod eich peiriant sychu dillad wedi'i awyru'n dda, a sicrhewch nad oes yna unrhyw grychau yn y bibell aer, ac nad yw hi wedi blocio nac wedi cael ei gwasgu mewn unrhyw ffordd.
- Dylech bob amser adael i bob rhaglen sychu, gan gynnwys y 'gylchred oeri', orffen yn llwyr cyn gwagio'r peiriant. Os byddwch yn stopio'r peiriant yng nghanol rhaglen, bydd y dillad yn dal i fod yn boeth.
- Peidiwch ag anwybyddu'r arwyddion rhybuddio – os byddwch yn gallu arogleuo llosgi neu os bydd y dillad yn teimlo'n boethach ar ddiwedd y gylchred, peidiwch â defnyddio'ch peiriant a threfnwch iddo gael ei archwilio gan weithiwr proffesiynol.
Galw Peiriannau Sychu Dillad yn ôl
Mae Whirlpool UK Appliances Ltd wedi cyhoeddi ei fod yn galw peirannau sychu dillad heb eu haddasu yn ôl.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn ymyrraeth ar 4 Mehefin 2019 gan Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch y llywodraeth (OPPS) a hysbysodd Whirlpool ei fod yn bwriadu cyflwyno Hysbysiad Glaw yn ôl. Gweler y datganiad llawn yma
Os oes gennych chi beiriant sychu dillad Whirlpool, Hotpoint, Indesit, Creda, Swan neu Proline a gynhyrchwyd rhwng 2004 a 2015, rhaid i chi:
1. ddatgysylltu'r plwg a pheidio'i ddefnyddio
2. gwirio i weld a ydyw'n un o'r modelau diffygiol a darllen yr hysbysiad diogelwch
3. os oes gennych fodel diffygiol, ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 151 0905