Awdurdodau Tân Cymru yn Arwain yr Agenda Cydweithio
PostiwydMae'r tri Awdurdod Tân yng Nghymru wedi dangos eu hymrwymiad at agenda Llywodraeth Cymru i wella cydweithio yng Nghynhadledd Datblygu Aelodau o Awdurdodau Tân ac Achub Cymru Gyfan, ym Mhencadlys GTA De Cymru, Llantrisant ar y 12fed o Hydref 2012.
Mae gan y tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru un amcan cyffredin, sydd wrth galon popeth maent yn ei wneud - i weithio gyda'i gilydd i greu Cymru ddiogelach. Pwrpas y gynhadledd ddwyflynyddol yw sicrhau bod Aelodau Etholedig o Awdurdodau Tân yn cael eu hysbysu a'u hymgysylltu o ran materion cenedlaethol a lleol.
Ffocws cynhadledd datblygu Aelodau 2012 oedd y cynnydd a wneir gan y Pwyllgor Materion Cenedlaethol, a sefydlwyd o'r newydd i gyflawni gwelliannau mesuradwy, yn cynnwys mwy o effeithlonrwydd a gwasanaeth sy'n canolbwyntio mwy ar y dinesydd, sy'n diwallu anghenion ein cymunedau lleol.
Roedd y rhaglen o siaradwyr yn cynnwys Mr Michael Mousdale, o Gyfreithwyr Trowers Hamlin , a soniodd am Gyhoeddiad CLlLC: Canllawiau Cyfreithiol ar gyfer Cydweithio, rhoddodd Prif Swyddogion pob un o'r Gwasanaethau Tân ac Achub gyflwyniadau ar gydweithio ar waith, yn cynnwys caffael, hyfforddi a datblygu cydweithredol a swyddogaethau adnoddau dynol. Fe wnaeth y Rheolwr Grŵp, Stephen Rossiter, Cydlynydd Prosiect i'r Pwyllgor Materion Cenedlaethol, amlinellu'r prosiect blaengynllun gwaith ar gyfer cydweithio yn y 12 mis nesaf.
Trefnwyd y gynhadledd gan GTA Canolbarth a Gorllewin Cymru ac fe'i chynhaliwyd ym mhencadlys GTA De Cymru yn Llantrisant.
Dywedodd y Cynghorydd Roy Llewellyn, Cadeirydd Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru:
"Yn sicr, heddiw fe ddangoswyd ymrwymiad y tri Awdurdod Tân yng Nghymru at feithrin a gwella'r cydweithio sy'n bodoli eisoes, ac mae gwaith y Pwyllgor Materion Cenedlaethol wrth yrru agenda gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ei blaen yn gyffrous ac yn arloesol."
Dywedodd y Cynghorydd Tudor Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân De Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cenedlaethol:
"Ein blaenoriaeth yw gwella cydweithio, y gwasanaethau a ddarperir a gwella'r gwasanaeth yn gyson, er lles Cymru, ac mae'r cynnydd a wnaed eisoes wrth gydweithio'n agosach yn dangos ei bod yn arwain yr agenda cydweithio."
Dywedodd Richard Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Rydym ni eisoes yn cydweithio ar sail ddyddiol - ond nawr rydym yn edrych ar fwy na'r trawstoriad o nodau cyffredin, yn hytrach, rydym yn dymuno sefydlu penderfyniad dwfn a chyfunol er mwyn cyrraedd yr un nod, a fydd yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda yn y tymor hir."
Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Mae cydweithio'n galw am lawer iawn o ymrwymiad, sy'n golygu rhannu gwybodaeth, dysgu a meithrin cydsyniadau, ac er mwyn bod yn llwyddiannus, mae'n galw am arweinyddiaeth gadarn o rengoedd uchaf sefydliadau. Dyma'r ethos cyffredinol tu ôl i'r Pwyllgor Materion Cenedlaethol newydd."
Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Ni fu pwysigrwydd gweithio gyda'n gilydd erioed yn uwch ar agenda'r sector cyhoeddus nag ydyw ar hyn o bryd. Dros y blynyddoedd nesaf, mae sefydliadau sector cyhoeddus fel ein un ni'n wynebu her dewisiadau economaidd anoddach eto. Rydym yn ymwybodol o fanteision cydweithio - yn enwedig o ran gweithio gyda'n gilydd i gaffael gwell adnoddau, cydnabyddiaeth a gwobr wrth wynebu adegau pan fod adnoddau'n gyfyngedig.."