Cadwch yn ddiogel ar noson tân gwyllt
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl ifanc beidio â chwarae gyda thân gwyllt neu gynnau coelcerthi yn ystod y gwyliau hanner tymor rhag ofn iddynt gael eu hanafu neu ladd
Gydag wythnos i fynd tan noson tân gwyllt mae Gwasanaeth Tân ac Achub yn erfyn ar y cyhoedd i gymryd pwyll gyda thân gwyllt a mynychu nosweithiau tân gwyllt cymunedol yn lle cynnau tân gwyllt adref.
DywedoddGareth Griffiths, uwch Swyddog Diogelwch Tân: " Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae diogelwch yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom. Nid oes modd gorbwysleisio mai'r ffordd orau i ostwng nifer yr anafiadau ar adeg noson tân gwyllt ydi trwy fynd i arddangosfa gymunedol wedi ei threfnu. Dyma'r arddangosfeydd diogelaf, sydd gan y cyfleusterau gorau a lle cewch y gwerth gorau am eich arian. Ar adeg Noson Tân Gwyllt, gwelir pobl oedrannus a pherchnogion anifeiliaid anwes yn pryderu fwy, felly trwy fynd i arddangosfa gymunedol, mae modd lleihau'r pryder hwn.
"Os oes raid i chi eich hun ddefnyddio tân gwyllt, dilynwch y rheolau tân gwyllt."
Y Rheolau Tân Gwyllt
- Prynwch dân gwyllt sydd â BS 7114 arnynt yn unig.
- Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi'n cynnau tân gwyllt.
- Cadwch y tân gwyllt mewn bocs â chaead arno.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar bob tân gwyllt.
- Taniwch nhw hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio tapr.
- Sefwch yn ddigon pell yn ôl.
- Peidiwch byth â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi ei gynnau. Hyd yn oed os nad ydi o wedi tanio, mae'n dal yn bosib iddo ffrwydro.
- Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced, na'i daflu.
- Dylid goruchwylio plant os ydynt yn agos at dân gwyllt.
- Taniwch ffyn gwreichion un ar y tro, a gwisgwch fenig.
- Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan bum mlwydd oed.
- Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ.
"Os byddwch chi'n trefnu noson tân gwyllt, rhowch wybod i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru trwy ffonio 01745 535805."
Nosweithiau Tân Gwyllt Cymunedol yn eich ardal chi:
Cerrigyrudion - Ysgol Cerrigydrudion 6ed Tachwedd 7pm.
Bwcle - Comin Bwcle 5ed Tachwedd 6.15pm
Glannau Dyfrdwy - Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy 5ed Tachwedd 7.30pm
Bae Colwyn - Parc Eirias 5ed Tachwedd
Y Rhyl - Y Cae Sioe, Rhuddlan 5ed Tachwedd
Biwmares - Ger pier Biwmares 3ydd Tachwedd 6.30pm
Talysarn- 5ed Tachwedd
Wrecsam- Sefydliad Aberoer , Minera 3ydd Tachwedd 6.30pm
Dinbych- Castell Dinbych 5ed Tachwedd 7pm
Llanfairfechan -2il Tachwedd 7pm
Rhuthun - Clwb Tennis, Llanfwrog, Rhuthun 3ydd Tachwedd 4pm
Yr Wyddgrug- Clwb Pêl droed yr Wyddgrug 5ed Tachwedd 6.45pm
Abergele - Traeth Pensarn 3ydd Tachwedd 7.30pm
Aberdyfi- Gorsaf Dân a'r Traeth 5ed Tachwedd
Penygroes - 5ed Tachwedd 6.30pm
Y Fflint - 5ed Tachwedd
Wrecsam - 5ed Tachwedd, Bryn y Gog
Llanfaes - 4ydd Tachwedd Canolfan Gymunedol Llanfaes
Amlwch - 5ed Tachwedd, Clwb Ieuenctid Penysarn 7pm
Y Felinheli - 5ed Tachwedd Ffordd y Traeth, y Felinheli
Os gwyddoch chi fod pobl yn camddefnyddio tân gwyllt i achosi difrod i eiddo neu anafu rhywun, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu mewn argyfwng ffoniwch 999.