Rhodri’n ar ben ei ddigon ar ôl ennill ein cystadleuaeth diogelwch tân
PostiwydMae Rhodri Campbell, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Bethel, yn hogyn hapus iawn ar ôl ennill pabell ar gyfer chwech o bobl ar ôl iddo gymryd rhan yn y gystadleuaeth diogelwch dros yr haf a drefnwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Fe gymrodd Rhodri, sydd yn bedair blwydd oed, ran yn y cwis i enwi'r pum perygl tân yn ein pabell arbennig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nglynllifon ym mis Awst.
Fe gymrodd miloedd o blant ran yn y cwis yma a chystadlaethau tebyg mewn gwahanol ddigwyddiadau dros yr haf, ond taflen Rhodri gafodd ei dewis ar hap.
Mae Rhodri wedi ennill pabell i chwech o bobl yn ogystal â gwelyau aer a sachau cysgu, a roddwyd gan Gelert Ltd.
Meddai Terry Williams, Rheolwr Diogelwch Cymunedol dros Wynedd a Môn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae plant o bob cwr o'r rhanbarth wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth diogelwch dros yr haf drwy gwblhau cwis a oedd yn amlygu'r peryglon cyffredin a'u helpu i ddeall sut i gadw mor ddiogel â phosibl rhad tân dros fisoedd yr haf.
"Cawsom ymateb gwych i'r ymgyrch wrth i ni deithio o le i le ac rydym yn falch iawn o gyflwyno'r wobr i Rhodri gyda diolch i haelioni Gelert Ltd."
Meddai llefarydd ar ran Gelert Ltd: "Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i sicrhau bod pawb sydd yn defnyddio ein hoffer yn yr awyr agored yn cadw mor ddiogel â phosibl rhag tân."