Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid (Dydd Llun 19 - Dydd Gwener 23 Tachwedd 2012).
Yr elusen CO-Awareness sydd yn gyfrifol am y fenter hon. Mae'r elusen gofrestredig yn cefnogi pobl sydd wedi dioddef o wenwyno carbon monocsid neu ddeunyddiau hylosg eraill, ynghyd â'u teulu a'u ffrindiau.
Maent yn ymgyrchu am ragor o ymwybyddiaeth ynglŷn â pheryglon carbon monocsid a deunyddiau hylosg eraill sydd yn gysylltiedig â llosgi nwy, olew, glo a choed.
Meddai Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Gall gwenwyn carbon monocsid eich lladd neu achosi difrod parhaol i'ch iechyd.
"Mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu pan nad ydi tanwyddau carbon yn llosgi'n llwyr - ni ellir ei arogli nai'i flasu, a gall llawer iawn ohono ladd yn gyflym iawn.
Ydym yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid er mwyn helpu i gadw ein trigolion yn ddiogel.
"Drwy wneud yn siŵr bod pob cyfarpar llosgi tanwydd a seimiai yn cael eu cynnal a'u cadw'n unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, bod simneiau yn cael eu glanhau a'u harchwilio'n rheolaidd a bod larwm carbon monocsid clywadwy wedi ei osod yn y cartref, gallwch helpu i'ch amddiffyn chi a'ch teulu rhag peryglon carbon monocsid."
Sut mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu?
Mae'n anodd iawn canfod carbon monocsid oherwydd nei fod yn ddiarogl, ddi-flas a di-liw. Mae hyn yn golygu hefyd ei bod yn hawdd iawn i rywun anadlu carbon monocsid heb yn wybod.
Mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu pan nad ydi tanwydd fel nwy, olew, glo a choed yn llosgi'n iawn.
Pan fydd tanau'n llosgi mewn ystafelloedd caeedig, mae carbon deuocsid yn cymryd lle'r ocsigen sydd yn yr ystafell . Mae'r carbon deuocsid sydd yn casglu yn yr aer yn atal y tanwydd rhag llosgi'n iawn, sydd wedyn yn rhyddhau nwyon carbon monocsid.
Pethau sy'n achosi gwenwyn carbon monocsid
Nwy, olew, glo a choed sydd yn cael eu llosgi mewn cartrefi, megis:
· boeleri
· tanau nwy
· systemau gwresogi canolog
· systemau gwresogi dŵr
· poptai
· tanau agored
Os nad ydy'r tanwydd yn llosgi'n iawn yn y cyfarpar hwn, mae nwy carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu.
Gall y canlynol hefyd achosi carbon monocsid:
· Defnyddio barbiciw neu wresogydd gardd yn y tŷ
· Defnyddio offer coginio i gadw'n gynnes
· Mannau caeedig neu heb eu hawyru'n dda - llosgi tanwydd mewn man sydd heb ei awyru'n dda, lle nad oes fentiau, ffenestri neu ddrysau ar agor.
· Offer wedi eu difrodi neu offer diffygiol - ar gyfer gwresogi neu goginio
· Cyfarpar gwresogi heb eu cynnal a'u cadw'n iawn ac mewn cyflwr gwael
· Ystafelloedd heb eu hawyru'n ddigon da - ffenestri wedi eu selio, dim brics aer
· Simneiau wedi eu blocio - gan nyth adar, llystyfiant, brics wedi syrthio neu waith adeiladu gwael
· Cyfarpar wedi eu gosod mewn man amhriodol neu'n cael eu defnyddio'n amhriodol - megis poptai neu gyfarpar gwresogi
· Gadel ceir neu injans torri gwair ymlaen yn y garej
· Hen gyfarpar heb eu cynnal a'u cadw'n iawn neu heb eu cadw mewn cyflwr da
· Paent - mae mygdarth o hylifau glanhau a hylifau cael gwared ar baent yn cynnwys maethlon clorid (dichloromethane) sydd hefyd yn gallu achosi gwenwyn carbon monocsid
Yr Arwyddion y dylid cadw llygaid arnynt
Os gwelwch yr arwyddion canlynol, efallai bod carbon monocsid yn gollwng:
· Fflamau melyn neu oren pan fyddant fel arfer yn llosgi'n las
· Hoel huddygl ar y wal ger y lle tân neu wresogyddion dŵr. Y mae'n bosib y cewch eich gwenwyno gan garbon monocsid os ydych yn rhannu wal neu simnai gyda thŷ lle mae carbon monocsid yn gollwng, hyd yn oed os nad ydyw'n gollwng yn eich cartrefi chi.