Ymateb aml-asiantaeth i’r tywydd garw yng Ngogledd Cymru
Postiwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru, ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ymateb i'r tywydd garw sy'n cael effaith difrifol ar Ogledd Cymru, ac yn enwedig Gwynedd ar hyn o bryd.
Meddai'r Uwcharolygydd Sacha Hatchett o Heddlu Gogledd Cymru, sy'n arwain yr ymateb aml-asiantaeth: "Y prynhawn yma fe ddechreuwyd ymateb brys i'r tywydd garw er mwyn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i unrhyw unigolyn sydd mewn perygl un ai ar y ffyrdd neu yn rhywle arall. Ein blaenoriaeth yw amddiffyn bywydau ac rydym yn cydweithio'n agos â'n partneriaid er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud, gan weithio tuag at ail agor y ffyrdd pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny.
"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio i gapasiti llawn ac maent wedi cael dros 250 o alwadau, gyda 22 cerbyd yn ymateb i alwadau brys mewn gwahanol rannau o'r ardal. Ar eu rhan ac er mwyn blaenoriaethu, rwy'n gofyn i chi ond ffonio'r Gwasanaeth Tân ac Achub os yr ydych yn credu bod bywydau mewn perygl, nid os oes modd i bobl symud i fyny'r grisiau os yw eu heiddo wedi dioddef llifogydd neu os oes modd iddynt fynd at gymydog.
Ar hyn o bryd mae'r A55 rhwng cyffordd 11 a 12 rhwng Bangor a Tal y Bont yn parhau i fod ar gau fel y mae'r A5 yn Ogwen lle mae'r afon wedi gorlifo. Mae'r ffyrdd ledled De Gwynedd wedi eu heffeithio arnynt ac mae'r neges gan y Gwasanaethau Brys yn parhau yr un fath, peidiwch â defnyddio'r ffyrdd oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
Os yw eich taith yn hanfodol, cysylltwch â Traffig Cymru neu eich gorsaf radio leol, cynlluniwch eich taith a byddwch yn ofalus iawn gan yrru yn unol â'r amodau tywydd.