Diweddariad 3 Ymateb aml-asiantaeth i'r tywydd garw yng Ngogledd Cymru
PostiwydDarganfod corff yn dilyn llifogydd
Gall Heddlu Gogledd Cymru gadarnhau bod corff dynes oedrannus wedi'i ddarganfod mewn eiddo yn Nhair Felin, Llanelwy, Sir Ddinbych yn dilyn y llifogydd.
Daeth Swyddogion lleol o'r Gwasanaethau Brys o hyd i gorff y ddynes wrth iddynt gynnal gwiriadau o dŷ i dŷ am hanner dydd heddiw, 27 Tachwedd.
Mae ymchwiliad ar y gweill.
Does dim amgylchiadau amheus ac mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un na ellir ei hegluro ar hyn o bryd.
Mae teulu'r ddynes wedi eu hysbysu.
Does dim mwy o wybodaeth ar gael ar hyn o bryd.