Ymateb aml-asiantaeth yn Llanelwy
PostiwydMae'r gwasanaethau brys, Cyngor Sir Ddinbych a'r gwasanaethau trydan a dŵr yn cydweithio er mwyn datrys y sefyllfa yn Llanelwy a'r cyffiniau.
Mae'r prif ffyrdd yn ardal Llanelwy bellach ar agor. Mae traffig yn dal i gael ei reoli ar Ffordd Sarn ger Ysbyty Glan Clwyd o ganlyniad i ddŵr sy'n sefyll.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn darparu patrolau ychwanegol yn yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio arnynt er mwyn darparu tawelwch meddwl ac i atal trosedd.
Meddai'r Uwcharolygydd Peter Newton: "Rydym yn parhau i gydweithio â'n hasiantaethau partner er mwyn lleihau effaith y llifogydd yn ardal Llanelwy a thu hwnt. O ganlyniad mae nifer o ffyrdd bellach wedi ail agor gan alluogi pobl i deithio yn ôl yr arfer. Mae Scottish Power wedi gweithio drwy gydol y dydd i sicrhau bod gan nifer o'r tai a effeithiwyd arnynt neithiwr drydan yn eu cartrefi unwaith eto. Sicrhau normalrwydd ar gyfer yr ardal yw'r flaenoriaeth.
Mae canolfannau gwybodaeth symudol Cyngor Sir Ddinbych yn Llyfrgell Llanelwy a Glasdir yn Rhuthun yn darparu cyngor i drigolion rhwng 8am a 6pm, saith diwrnod yr wythnos.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau i weithredu pwmp er mwyn cael gwared ar unrhyw ddŵr sy'n parhau yn yr ardal.
Gellir gweld cyngor gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar yr hyn y dylid ei wneud os oes llifogydd drwy ddilyn y ddolen isod: