Digwyddiadau’n gysylltiedig â Choelcerthi a Thân Gwyllt
Postiwyd
Bu'n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymateb i 25 o ddigwyddiadau'n ymwneud â choelcerthi a thân gwyllt ar Dachwedd 5ed.
Roedd y rhain yn cynnwys:
15.55 Coelcerth fechan yn Rhiwabon
16:05 Llosgi sbwriel Balmoral Grove, Y Rhyl
16:25 Coelcerth ym Mhensyflog, Porthmadog
17:01 Llosgi sbwriel Stryd Acwariwm, Y Rhyl
17:27 Llosgi sbwriel Bryn Hafod, Parc Caia Wrecsam
17:49 Coelcerth wedi ei gadael heb neb i gadw llygaid arni yn Oak Drive, Bae Colwyn
17:59 Tân wedi ailgynnau Bryn Hafod, Parc Caia
18:07 Llosgi sbwriel, Coedpoeth
18:09 Llosgi sbwriel, St Giles Crescent
18:11 Coelcerth fawr wedi ei gadael heb neb i gadw llygaid arni Windham Gardens, Parc Caia
19:23 Llosgi sbwriel, Windham Gardens, Parc Caia
19:47 Llosgi sbwriel, Acrefair
20:19 Llosgi sbwriel Windham Gardens,Parc Caia
20:22 Coelcerth fechan, Ffordd Santes Helen, Caernarfon
20:32 Llosgi sbwriel Bryn Hafod, Parc Caia Wrecsam
20:34 Llosgi sbwriel, Bron Y Wern, Bagillt
20:41 Llosgi sbwriel Stryd Madog, Porthmadog
20:48 Coelcerth ym Mhensyflog, Porthmadog
21:15 Coed ar dân, Cheshire View, Wrecsam
21:17 Llosgi sbwriel Tan Y Dre, Wrecsam
21:37 Coelcerth ar gae pêl-droed Parc Caia, Wrecsam
21:58 Sbwriel ar dân, Tanat Way, Parc Caia
22:13 Paletau pren ar goelcerth, St Andrews Avenue Llandudno
22:20 Nifer o goed ar dân Castle Road, Coedpoeth
22:30 Sbwriel ar dân, Glas Gors, Parc Caia
MeddaiGareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Ar y cyfan mae nifer y digwyddiadau yn ymwneud â choelcerthi a thân gwyllt y cawsom ein galw iddynt ar Dachwedd y 5ed wedi gostwng, a hoffem ddiolch i'n trigolion am weithio gyda ni i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Mynd i nosweithiau tân gwyllt cymunedol yw'r ffordd fwyaf diogel i ddathlu noson tân gwyllt.
"Fodd bynnag, cawsom ein galw i sawl digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â choelcerthi a thân gwyllt yn ardal Wrecsam. Mae'r math yma o ymddygiad twp yn gwbl annerbyniol a byddwn yn cydweithio gydag asiantaethau lleol i fynd i'r afael â'r bobl sy'n cyflawni'r troseddau hyn a lleihau effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae ymddygiad anghyfrifol o'r fath yn rhoi pwysau mawr ar adnoddau'r gwasanaeth tân ac achub. Tra bod criwiau'n brysur yn ymateb i'r galwadau hyn, nid ydynt ar gael i ymateb petai ddigwyddiad brys gwirioneddol lle mae bywydau yn y fantol."