Digwyddiad cemegol yng Nglannau Dyfrdwy
PostiwydMae'r gwasanaethau brys yn bresennol mewn digwyddiad cemegol ar Prince William Avenue, Sandycroft, Glannau Dyfrdwy.
Fe anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bedwar o beiriannau tân ( o Lannau Dyfrdwy, Bwcle a Wrecsam) yn ogystal â dau beiriant arbenigol (yn cynnwys Uned Amddiffyn yr Amgylchedd o Wrecsam) i'r digwyddiad am 11.00 o'r gloch heddiw (Dydd Mercher 7 Tachwedd).
Mae staff o Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol.
Mae cemegyn sy'n cael ei ddefnyddio yn y safle cynhyrchu cemegau wedi gollwng, ond ni wyddys faint yn union. Mae'r gollyngiad wedi ei gyfyngu i'r safle.
Fe dderbyniodd tri dyn, a oedd yn gweithio ar y safle, driniaeth yn y fan a'r lle cyn cael eu cludo ir ysbyty.
Fe ddefnyddiodd ein diffoddwyr tân eu hoffer anadlu a buont yn cydweithio gyda thimau brys ar y safle i drin y gollyngiad ac i ddelio gyda'r bobl a gafodd eu hanafu.