Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd ieuenctid Sir y Fflint
PostiwydCymrodd criw o bobl ifanc o Sir y Fflint ran yng Nghwrs Y Ffenics yn ddiweddar. Dyma fenter arloesol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae cwrs Y Ffenics wedi ei ddylunio'n arbennig i helpu pobl ifanc ailgyfeirio eu bywydau. Drwy gymryd mantais o'u brwdfrydedd i gwblhau gweithgareddau gwerth chweil a chynhyrchiol y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i ddod yn rhan o'r gymuned ynghyd â'u cyfoedion.
Cynhaliwyd y dau gwrs yn ystod y bythefnos ddiwethaf yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug.
Yn ystod yr wythnosau cafodd y myfyrwyr , a oedd rhwng 13 a 18 mlwydd oed, gyfle i gael blas ar waith y Gwasanaeth Tân ac Achub a chymryd rhan mewn ymarferiadau. Ar ben hyn, roedd nifer o weithgareddau awyr agored wedi eu trefnu yn ogystal â chyfle iddynt ymweld â'r Ystafell Reoli er mwyn iddynt gael gweld sut y byddwn yn derbyn galwadau brys ac yn anfon peiriannau i ddigwyddiadau.
Dywedodd Osian Hywel, Cydlynydd Y Ffenics: "Rwyf yn falch o weld fod y cyrsiau hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus unwaith yn rhagor."
"Prif nod y cwrs yw ysgogi'r bobl ifanc a'u gwneud i deimlo'n fwy positif amdanynt eu hunain, a fydd, o ganlyniad, yn eu gwneud yn ddinasyddion gwell.
"Rwyf yn mawr obeithio bod y bobl ifanc wedi elwa o fynychu cwrs y Ffenics, ac y byddant yn parhau i elwa yn y dyfodol."