Peidiwch â Gadael I Bethau ‘Boethi’ y Diwrnod San Ffolant Hwn!
PostiwydEfallai y bydd nifer ohonoch wedi eich swyno gan ramant y Dydd San Ffolant hwn ond mae diffoddwyr tân yn annog cyplau i beidio â gadael i bethau fynd yn danbaid.
Mae Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru am i bobl gymryd pwyll ar 14 Chwefror os ydynt yn bwriadu cael noson ramantus - yn enwedig os byddant yn defnyddio fflamau agored.
Gall cyfuniad o ganhwyllau ac alcohol arwain at drwbl os cânt eu defnyddio yn y ffordd anghywir. Mae peryg i chi roi eich gwallt neu'ch dillad ar dân os byddwch yn gwyro dros gannwyll am gusan.
Coginio yw prif achos mwyafrif y tanau yn y cartref yn y wlad hon, felly mae'n bwysig eich bod yn canolbwyntio pan fyddwch yn paratoi pryd rhamantus i'ch cariad.
Dywedodd Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tan gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Er y gall noson San Ffolant fod yn noson ramantus iawn gall y cyfuniad o hwyliau da, alcohol a rhamant arwain at ganlyniadau trychinebus. Rydym am i bawb fwynhau'r noson ramantus a chadw'n ddiogel, felly gwrandewch ar ein cynghorion diogelwch
"Yn anad dim, gwnewch yn siŵr mai dim ond cariad fydd yn cynnau y diwrnod San Ffolant hwn drwy gadw'n ddiogel rhag tân."
Mae canhwyllau yn creu awyrgylch ramantus ond cofiwch:
- eu cadw ymhell o wrthrychau fflamadwy megis llenni, llieiniau neu ddillad gwlâu.
- gall canhwyllau bach crwn losgi ar dymheredd uwch na 200 gradd a bydd gwaelodion metel y canhwyllau hyn yn boeth iawn felly cofiwch ddefnyddio daliwr canhwyllau a pheidiwch byth â'u gosod ar y bath neu ar setiau teledu.
- gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd canhwyllau'n iawn cyn mynd i'r gwely.
Mae coginio pryd arbennig yn ffordd dda o ddatgan eich cariad, ond cofiwch fod dros 50 y cant o danau yn y cartref yn cychwyn yn y gegin felly:
- cymrwch ofal pan fyddwch yn ffrïo
- gwnewch yn siŵr bod y gridyll a'r popty yn lân fel nad oes peryg i saim fynd ar dân
- peidiwch â gadael bwyd yn coginio heb neb yn goflau amdano - mae'n bwysig canolbwyntio.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch , eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.
I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.