Dod o Hyd I Gorff Yn Dilyn Tân Yn Llangollen
PostiwydGalwyd criwiau i barc carafannau ar Ffordd yr Abaty, Llangollen am 23:11 o'r gloch neithiwr, Dydd Llun Chwefror 13, i ddelio â thân mewn carafán.
Fe ddefnyddiodd dau griw o Langollen ac un criw o'r Waun ddau set o offer anadlu ac un bibell ddŵr i ddiffodd y tân.
Yn drist iawn, daethpwyd o hyd i gorff dyn a oedd yn ei 40au yn y garafán.
Mae ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill.