Lansio’r Ymgyrch ‘Gwylia’r Cloc - Neu Bydd Fflamau Toc!’ Yn Wrecsam
PostiwydWyddoch chi mai coginio bwyd yw prif achos dros hanner y tanau bwriadol yn y cartref yng Ngogledd Cymru - a bod y ffigwr hwn yn codi i dros 58% yn ardal Wrecsam, sydd gan y nifer uchaf o danau yn ymwneud â choginio ar gyfer pob pen o'r boblogaeth?
Dyna pam bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio ymgyrch newydd heddiw i geisio mynd i'r afael â'r ystadegyn brawychus hwn.
Mae'r ymgyrch 'Gwylia'r Cloc - Neu bydd fflamau toc!' yn dwyn i'r amlwg beryglon peidio â thalu sylw pan fyddwch yn coginio a pheryglon gadael bwyd yn coginio heb neb yn gofalu amdano.
Peidiwch â gwneud cawlach o bethau yn y gegin drwy anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon am yn rhy hir, gadel y saim yn eich sosban sglodion i orboethi, llosgi tost ac anghofio diffodd y popty. Gall y rhain arwain at anafiadau difrifol, neu, yn fwy difrifol fyth, ladd rhywun.
Dyna pam y bydd diffoddwyr tân yn yr ardal dros y ddau fis nesaf yn siarad gyda siopwyr am sut i gadw'n ddiogel yn y gegin. Byddant hefyd yn dosbarthu amseryddion cegin i annog pobl i gadw diogelwch mewn cof a chofio gadw llygaid ar y cloc pan fyddant yn coginio.
Mae'r ymgyrch pwysig hwn yn cynnwys hysbysebion ar gefn bysys yn ardal Wrecsam yn ogystal â dosbarthu taflenni gwybodaeth yn yr ysgolion lleol. Y gobaith yw y bydd hyn denu pobl i'r archfarchnadoedd lleol yn y dref lle bydd staff y Gwasanaeth Tân ac Achub yno i roi cyngor angenrheidiol siopwyr.
Dywedodd Paul Whybro o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'n gyfrifoldeb arnom ni i wneud popeth o fewn ein gallu i amlygu'r ystadegyn hwn. Ond, er gwaethaf ein holl ymdrechion, ni allwn orfodi pobl i newid eu ffordd o fyw - gallwn gynnig cyngor i bobl, ond mae'n rhaid i'r unigolyn gymryd sylw o'r cyngor hwnnw er mwyn cadw'n ddiogel.
"Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i danau yn y cartref sydd wedi cynnau yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio bod bwyd yn coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, methu â chanolbwyntio neu wedi bod yn yfed. Gall hyn arwain at ganlyniadau trychinebus.
"Felly cymrwch sylw o'r ymgyrch, dewch draw i'n gweld yn eich archfarchnad leol- cewch amserydd cegin handi iawn a bydd cyfle i ennill hamper o fwydydd moethus drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth.
"Peidiwch ag anghofio bod larymau mwg yn arbed bywydau. Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234.
Dyma ein prif gynghorion ar sut i gadw'n ddiogel yn y gegin:
- Os oes raid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres.
- Peidiwch â defnyddio matsis na thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel.
- Gadewch yn siŵr nad yw handlenni'r sosbenni yn mynd dros ochr y pentan
- Cadwch y popty, pentan a'r gridyll yn lân - gall saim fynd ar dân yn hawdd iawn
- Peidiwch byth â sychu dim byd uwchben y popty.
- Cymrwch ofal os byddwch yn gwisgo dillad llac gan y gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
- Pan fyddwch wedi gorffen coginio cofiwch ddiffodd popeth yn llwyr
- Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
- Peidiwch â defnyddio sosban sglodion - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres
- Gosodwch larymau mwg - maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gael i rannu cynghorion yn y mannau canlynol:
Chwefror 17 Morrisons (lansiad)
Mawrth 2 Lidl Ffordd yr Wyddgrug
Mawrth 9 Tesco
Mawrth 16 Cooltrader
Mawrth 23 Lidl Ffordd Wrecsam
Mawrth 30 Asda
Ebrill 13 Aldi