Cyngor Gan Ddiffoddwyr Tân Lleol Ar Ddydd Mawrth Crempog
PostiwydYn draddodiadol mae Dydd Mawrth Ynyd yn nodi dechrau tymor y Grawys, a bydd cannoedd o bobl ar hyd a lled y wlad yn coginio crempogau cyn ymprydio am 40 niwrnod. Os yw meddwl am grempogen gynnes gydag lemwn a siwgr arni yn tynnu dŵr o'ch dannedd, efallai na fyddwch yn poeni gormod am ddiogelwch tân! Fodd bynnag, mae tanau a achosir gan saim a sosbenni sglodion yn drychinebus, ac yn aml iawn bydd nifer o bobl yn cael eu hanafu mewn tanau o'r fath.
Dywedodd Gareth Griffiths o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
"Mae coginio crempogau yn hwyl ir teulu cyfan ac maent yn flasus dros ben. Fodd bynnag, mae dros 50% y tanau sydd yn digwydd yn y cartref yn cynnau yn y gegin felly cymrwch ofal da chi, yn enwedig os ydych yn coginio gydag olew poeth."
Mae Gareth yn eich cynghori i gadw'r cynghorion isod mewn cof pan fyddwch yn coginio gyda phadell ffrio neu olew poeth:
- Os yw'r gwres dal ymlaen peidiwch â gadael y badell heb neb yn gofalu amdani
- PEIDIWCH â symud y badell os aiff ar dân!
Os aiff y badell ar dân:
- Peidiwch â pheryglu'ch hun. Diffoddwch y gwers os yw'n ddiogel i wneud hynny. Peidiwch byth â thaflu dŵr ar y badell.
- Peidiwch â cheisio diffodd y tân eich hun.
- EWCH ALLAN, ARHOSWCH ALLAN A GALWCH 999.
"Cofiwch ddiffodd yr holl gyfarpar a chlirio'r man coginio unwaith y byddwch wedi gorffen coginio" ychwanegodd Gareth.
Bydd larwm mwg gweithredol yn eich helpu i ddianc yn ddiogel. Lluniwch gynllun dianc a cadwch ato - mae'n bwysig eich bod yn gwybod sut i adael y tŷ, a lle i fynd.
Cadwch yn ddiogel a gwnewch yn siŵr bod eich larymau mwg yn gweithio'n iawn;
- Profwch eich larymau mwg unwaith yr wythnos
- Newidiwch y batri bob blwyddyn (oni bai ei fod yn larwm 10 mlynedd)
- Glanhewch y larwm yn iawn o leiaf ddwywaith y flwyddyn gan ddefnyddio sugnwr llwch i lanhau'r tu mewn.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.
I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, galwch ein llinell rhadffôn ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.