Diffoddwyr Tâ Yr Wydddgrug Yn Codi Arian at Achosion Da
PostiwydNeithiwr fe ddaeth elusennau lleol at ei gilydd yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug i dderbyn cyfran o'r £2,000 a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt flynyddol a gynhaliwyd ar gae Clwb Pêl Droed yr Wyddgrug ym mis Tachwedd.
Derbyniodd Ambiwlans Sant Ioan a Chanolfan Seren Wib, Ysbyty Maelor Wrecsam rodd o £1,000 yr un.
Dywedodd Peter Edwards, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug: "Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd help llaw wrth drefnu'r noson tân gwyllt y llynedd - bu i bawb weithio fel rhan o dîm ac roedd yn noson tan gamp i'r gymuned gyfan.
"Rydym yn falch ein bod yn gweithio gyda thrigolion y Gogledd i'w cadw mor ddiogel â phosibl. Mae gweld yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio yn y gymuned leol yn gwneud yr holl waith caled yn werth chweil."