Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwch Hi Yn Llwyr Ar Ddiwrnod Dim Smygu

Postiwyd

Er mwyn cyd-fynd gyda Diwrnod Dim 'Smygu Cenedlaethol (14eg Mawrth 2012), mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog ysmygwyr lleol i sylweddoli'r peryglon o danio sigaréts yn y cartref ac yn eu hatgoffi fod gwaredu sigaréts heb ofal yn gallu peryglu eu bywyd.

Mae tua hanner yr holl danau angheuol yn yr ardal yn cael eu hachosi gan ddefnyddiau ysmygu.


Mae gan Ogledd Cymru ganran uwch o ysmygwyr y pen na'r ddwy ardal arall Gymreig, mae 30% o'r boblogaeth yn ysmygu mewn rhai siroedd.

Gyda gostyngiad cyson yn y nifer o ysmygwyr, mae cyfanswm y nifer o danau sy'n cael eu hachosi gan sigaréts yn lleihau, ond gyda rhyw 50% o'r holl farwolaethau tân yn ardal y Gwasanaeth wedi eu priodoli i sigaréts, mae'r gyfran o farwolaethau yn syfrdanol.

Fe ddylai ysmygwyr fod yn ymwybodol o'r peryglon tan maen nhw'n eu hwynebu, dileu arferion peryglus, gosod larymau mwg ar bob lefel yn y cartref a'u profi'n wythnosol. Mae larwm mwg sy'n gweithio'n golygu eich bod chi ddwywaith yn fwy tebygol o oroesi tân damweiniol mewn tŷ.

"Heb system larwm cynnar, gallech chi golli amser dianc gwerthfawr," meddai Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
"Mae dau neu dri o anadliadau o fwg gwenwynig yn gallu achosi i berson fod yn anymwybodol.

"Yn ogystal â pheryglon iechyd, mae angen i bobl fod yn ymwybodol o'r peryglon angheuol o ysmygu yn y cartref a sut mae defnyddiau ysmygu yn gallu arwain at dân yn gyflym iawn. Wrth ddiffodd sigaréts, fe ddylai ysmygwyr sicrhau eu bod yn ei diffodd hi, yn llwyr ac os yn bosib, peidio ag ysmygu yn y cartref o gwbl."


I ysmygwyr sydd ddim yn barod i roi'r gorau iddi'r Diwrnod Dim Smygu yma, mae'n bwysig dilyn y canllawiau syml yma i atal tân yn y cartref:

- Diffoddwch hi, yn llwyr! Gwnewch yn siŵr fod y sigarét wedi ei diffodd yn llwyr
- Gosodwch larwm mwg a'i brofi'n wythnosol. Mae larwm mwg yn gallu rhoi amser gwerthfawr pan fyddwch chi'n dianc, arhoswch allan a ffoniwch 999
- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely. Byddwch yn ofalus pan fyddwch chi wedi blino. Mae'n hawdd iawn syrthio i gysgu pan fydd eich sigarét yn dal i losgi a chynnau tân yn y dodrefn.
- Peidiwch â chymryd cyffuriau ac alcohol wrth ysmygu. Mae'n hawdd colli canolbwyntiad wrth ddefnyddio unrhyw fath o gyffuriau neu yfed, gallai fod yn farwol wrth gael ei gyfuno gyda sigaréts.

- Peidiwch byth a gadael sigaréts, sigarau neu getyn ar eu pennau eu hunain - mae'n bosib iddynt syrthio drosodd wrth iddynt losgi
- Defnyddiwch flwch llwch addas a thrwm sydd ddim yn gallu syrthio drosodd yn hawdd ac wedi ei wneud o ddefnydd sydd ddim yn llosgi.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen