Lansio Ymgyrch Yng Ngwynedd I Leihau Nifer y Tanau Glaswellt
PostiwydMae aelodau'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol wedi lansio ymgyrch newydd i geisio lleihau nifer y tanau glaswellt bwriadol yn ardaloedd Blaenau Ffestiniog a Bangor dros wyliau'r Pasg.
Dewiswyd yr ardaloedd hyn oherwydd mai yma y cafwyd y nifer uchaf o danau glaswellt bwriadol dros gyfnod y Pasg y llynedd.
Mae aelodau'r tîm, ynghyd â Swyddogion Cyswllt ag Ysgolion o Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, wedi bod yn mynd o gwmpas yr ardal yn hyrwyddo'r ymgyrch drwy ymweld ag ysgolion, clybiau ieuenctid ac archfarchnadoedd i roi gwybod i bobl y byddant yn cadw llygaid barcud ar Faesgeirchen ym Mangor a Blaenau Ffestiniog yn ystod Gwyliau'r Pasg eleni.
Mae gweithgareddau eraill hefyd ar y gweill, megis dosbarthu taflenni i bob tŷ ym Maesgeirchen ac ardal benodol ym Mlaenau Ffestiniog. Mae byrddau arddangos hefyd wedi cael eu codi er mwyn dangos peryglon cynnau tanau bwriadol a'r effaith ar y gymuned. Cynhelir cystadleuaeth llunio poster yn y ddwy ardal dan sylw a bydd cyfle i un plentyn lwcus ennill iPod shuffle.
DywedoddKevin Jones, Rheolwr y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol: "O edrych ar yr ystadegau dros gyfnod y Pasg y llynedd fe welsom mai'r ardaloedd hyn oedd gan y nifer uchaf o danau glaswellt bwriadol a dyma pam ein bod yn lansio'r ymgyrch hon yn yr ardaloedd hyn.
"Drwy godi proffil y gwaith y mae'r Tîm Lleihau Tanau Bwriadol yn ei wneud yn yr ardaloedd hyn a rhoi gwybod i drigolion bod yr Heddlu a diffoddwyr tân yn cadw llygaid barcud ar yr ardal rydym yn gobeithio y bydd yr ystadegau am eleni yn gostwng.
"Drwy gynnwys yr holl gymuned yn ein hymgyrch rydym yn gobeithio y bydd pawb yn deall beth yw canlyniadau cynnau tanau bwriadol a bod galw criwiau i danau o'r fath yn peryglu bywydau gan eu bod yn cael eu hatal rhag mynd i ddigwyddiadau brys yn yr ardal."