Agoriad Swyddogol Yn Dynodi Partneriaeth Newydd Gyda Gwylwyr y Glannau
PostiwydHeddiw (Dydd Gwener 16 Mawrth) croesawodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn swyddogol i Orsaf Dân y Fflint lle bydd y ddau sefydliad yn cydweithio i amddiffyn y cyhoedd fel rhan o bartneriaeth newydd.
Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn gyfrifol am arbed bywydau a chydlynu timau chwilio ac achub ar y môr gyda Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi.
Mae Garry Jones sydd yn Swyddog Gorsaf yng Ngorsaf Gwylwyr y Glannau'r Fflint yn egluro mwy: " Mae Gorsaf Gwylwyr y Glannau'r Fflint wedi bod yn chwilio am safle newydd yn y Fflint ers peth amser ac rydym yn falch bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cytuno i ni ddefnyddio'r bae yng Ngorsaf Dân y Fflint .
"Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i ni feithrin partneriaeth newydd a gwneud y defnydd gorau posib o'n hadnoddau er bydd y ddau barti."
Dywedodd Kevin Brain, Rheolwr Ymateb gyda Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru: "Gan bod gennym le nad ydym yn ei ddefnyddio yn yr orsaf rydym yn hapus i gadw peiriant ymateb Gwylwyr y Glannau yng Ngorsaf Dân y Fflint.
"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ac rydym wedi arfer gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus ar sawl achlysur. Mae'n ein galluogi i gynnig y gwasanaeth gorau posib yn ogystal â'n helpu i arbed costau."
Cynhaliwyd y seremoni agoriadol yng Ngorsaf Dân y Fflint am 13:00 o'r gloch yng nghwmni Davy Thompson, Rheolwr Diogelwch Arfordirol Gwylwyr y Glannau, Wil Williams, Rheolwr Sector Clwyd, Y Prif Swyddog Tân Simon Smith, Y Gwir Anrhydeddus David Hanson AS, Sandy Mewies AC, Maer a Maeres y Fflint yn ogystal â chynrychiolwyr o'r the RNLI.
Yn y llun: (Ar y chwith) Simon Smith- Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr, ynghyd â chynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (Ar y dde) Davy Thompson , Rheolwr Diogelwch Arfordirol Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi ynghyd ag aelodau Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi.