Cyngor Ar Storio Petrol
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori pobl i beidio â chadw petrol neu danwydd eraill yn y cartref oherwydd y peryglon posibl.
Mae petrol a thanwydd yn gollwng anwedd sydd yn hynod fflamadwy ac felly mae'n bwysig bod pobl yn cymryd pwyll gyda hwy. .
Mae rheolau llym ynglŷn â faint o danwydd y cewch gadw, sef;
- 2 x 10 litr mewn cynhwysydd metel cymeradwy, sydd gan gap sgriwio neu
- 2 x 5 litr mewn cynhwysydd plastig, sydd yn cydymffurfio â Rheoliadau Gwirod Petroliwm (Cynhwysyddion Plastig) 1982, a sydd gan gap sgriwio neu gaead i atal yr hylif a/neu'r anwedd rhag gollwng.
Nid yw gorsafoedd petrol yn caniatáu i yrwyr lenwi cynhwysyddion amhwrpasol â phetrol.
Dywedodd Gary Brandrick, Uwch Reolwr Gweithrediadau: "Rydym yn cynghori'r cyhoedd i beidio â storio petrol yn y cartref ond oes yn rhaid i bobl wneud hynny, ar gyfer peiriannau torri gwair neu offer garddio er enghraifft, rydym yn eu cynghori i ddilyn y cyfarwyddiadau isod:
- Ni ddylid ei gadw yn y tŷ, mewn fflat neu mewn annedd, ac ni ddylid ei gadw dan y grisiau neu ger drysau rhag ofn y bydd yn rhaid eu defnyddio i ddianc o'r adeilad mewn achos o dân.
- Dylid cadw'r tanwydd mewn cynhwysydd pwrpasol fel y nodir uchod, heb gadw mwy na'r swm cyfreithiol.
- Dylid cadw'r tanwydd ymhell o'r cartref h.y. mewn tŷ allan, garej neu sied ac mae'n bwysig bod y mannau hyn wedi eu hawyru'n dda.
- Dylid ei gadw dan glo rhag fandaliaid neu losgwyr.
- Dylid ei gadw ymhell o unrhyw beth a all danio neu fflamau agored ac ni ddylech ysmygu yn agos at y tanwydd.
- Dylid arllwys y tanwydd yn yr awyr agored, ac nid yn y man lle'i cedwir.
- Dylid defnyddio twmffat wrth arllwys y tanwydd.
- Os digwydd i'r tanwydd dasgu ar eich dillad, newidiwch ar unwaith.
- Yn ddelfrydol, dylid cadw offer difodd tân ag ewyn neu bowdr sych yn agos at y man lle cedwir y tanwydd, rhag tân, a thywod rhag i chi ollwng peth o'r tanwydd.
"Mae'n drosedd cadw mwy o danwydd na sy'n gyfreithiol, oni bai bod gennych drwydded gan yr Awdurdod Trwyddedu Petroliwm. Mae petrol yn sylwedd peryglus iawn sydd yn cynyddu'r risg o dân."