Tân Yn Nantmor
PostiwydMae diffoddwyr tân am atgoffa pobl i gymryd pwyll yng nghefn gwlad a chadw rhagofalon tân syml mewn cof yn dilyn tân eithin mawr a ddigwyddodd yn Nantmor. Fe'i achoswyd yn ddamweiniol gan wersyllwyr a oedd yn defnyddio fflamau agored.
Treuliodd 35 o ddiffoddwyr tân 12 awr, ddoe ac yn ystod oriau mân y bore yma, yn diffodd y tân a ledaenodd ar hyd 70 acer yng Nghae Dafydd ger Nantmor, Caernarfon.
Dywedodd Gwyn Roberts o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
"Pob blwyddyn, mae tanau yn yr awyr agored yn dinistrio aceri o dir a chynefinoedd bywyd gwyllt yng nghefn gwlad. Maent hefyd yn gwastraffu ein hadnoddau prin y gallwn fod yn eu defnyddio i achub bywydau mewn digwyddiadau eraill.
"Mae'r tir yn hynod o sych ar hyn o bryd, ac o'r herwydd gall tanau ledaenu'n gyflym iawn. Gofynnwn i wersyllwyr a cherddwyr beidio â defnyddio fflamau agored a gwersylla mewn mannau dynodedig yn unig."
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd am rannu'r cynghorion isod i leihau niferoedd y tanau damweiniol sy'n digwydd yn yr awyr agored:
Mae'n hawdd iawn colli rheolaeth ar danau yn yr awyr agored. Dylai gwersyllwyr a charafanwyr ofyn am ganiatâd gan y tirfeddiannwr cyn cynnau barbiciw neu dân, ac ni ddylech fyth goginio yn agos at ddefnyddiau fflamadwy neu laswellt hir - gall tân ddinistrio pabell fechan mewn llai na 60 eiliad.
Cymrwch bwyll wrth goginio ar farbiciw - mae'n bwysig eu bod yn cael eu gosod ar lawr gwastad cadarn ac anhylosg a dylid eu cadw ymhell o adeiladau, coed ac eitemau eraill a all fynd ar dân. Ni ddylech adael barbiciw sydd wedi ei danio heb neb i gadw llygaid arno a dylech gadw bwced o dywod neu ddŵr gerllaw. Cadwch blant ac anifeiliaid ymhell o'r barbiciw. Ar ôl gorffen, disgwyliwch i'r colsion oeri cyn cael gwared arnynt.
Mae sigaréts a photeli gwydr ymhlith rhai o'r peryglon eraill. Ni ddylech fyth daflu sigaréts sydd wedi eu tanio allan o ffenestr y car, a dylech ddiffodd eich defnyddiau ysmygu yn gywir. Ni ddylech adael poteli plastig neu wydr mewn coedwigoedd - gall golau'r haul gynnau tân mawr wrth i'r pelydrau sgleinio drwy'r gwydr.
Os gwelwch dân, rhowch wybod i ni ar unwaith. Peidiwch â cheisio diffodd tanau na ellir eu diffodd â bwcedaid o ddŵr - gadewch y fan cyn gynted â phosibl.