Digwyddiad Yn Ymwneud â Pheiriant Tân
PostiwydGalwyd yr Heddlu a'r gwasanaeth Ambiwlans i ddigwyddiad ar yr A493 ger Pennal, Machynlleth yng Ngwynedd am 5.20pm brynhawn ddoe, Dydd Gwener 13eg Ebril,l wedi i beiriant tân, a oedd yn dychwelyd o ddigwyddiad yng nghanolbarth Cymru lle bu'r criw yn cynorthwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, adael y ffordd. Roedd pedwar aelod o'r criw yn teithio yn y peiriant. Fe dderbyniodd dau aelod o'r criw driniaeth yn y fan a'r lle ac fe gludwyd dau i'r ysbyty yn Nhywyn lle cawsant driniaeth am fân anafiadau.
Mae ymchwiliad ar y gweill.