Tân Yng Nghlynnog Fawr
Postiwyd
Cafodd diffoddwyr tân o Gaernarfon, Pwllheli a Phorthmadog eu galw i dân yng Nghlynnog Fawr am 9.00pm, Ddydd Mercher 18fed Ebrill.
Ar ôl cyrraedd daeth y criwiau wynebu yn wyneb â thân difrifol yn yr eiddo. De ddefnyddiodd pedwar diffoddwr tân offer anadlu a phrif bibell ddŵr i frwydro yn erbyn y fflamau. Roedd y tân dan reolaeth erbyn 11.49pm.
Cafwyd difrod tân sylweddol ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.