Tân mewn byngalo ger Caernarfon
PostiwydCafodd criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i dân mewn tŷ ym Mhontrug ger Caernarfon y prynhawn yma, Dydd Gwener 25ain Mai.
Cafodd pum peiriant - dau o Gaernarfon, un o Fangor, un o Lanberis ac un o Borthaethwy - eu hanfon i'r digwyddiad am 12.27 o'r gloch.
Pan gyrhaeddodd y diffoddwyr tân roedd y tân yn y llawr gwaelod a'r gwagle rhwng y nenfwd a'r to yn llosgi'n ffyrnig yn y tŷ sengl.
Nid oedd neb yn yr eiddo ar y pryd.
Oherwydd bod pedwar silindr LPG yn agos at yr eiddo, bu'n rhaid i bobl yn y tri tŷ cyfagos adael eu cartrefi rhag ofn.
Defnyddiodd y criwiau bedwar set o offer anadlu, un pibell ddŵr a phedair prif bibell i ddiffodd y tân.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.