Canfod corff mewn fflat yng Nghemaes
PostiwydGalwyd yr Heddlu i fflat ar y stryd fawr yng Nghemaes, Ynys Môn am tua 11.19am heddiw ar ôl i bryder gael ei fynegi am ddiogelwch un o'r trigolion lleol.
O ganlyniad i bryderon bod nwy yn gollwng yn yr eiddo, cafodd yr ardal ei diogelu cyn i'r Heddlu a'r Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fynd i mewn i'r fflat.
Doedd dim nwy yn y tŷ ond roedd tystiolaeth o dân bach yn y fflat a daethpwyd o hyd i gorff dynes yn y lleoliad.
Meddai Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Dyma ddigwyddiad trasig. Does dim amgylchiadau amheus ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y cyd gan yr heddlu a'r gwasanaeth tân er mwyn ceisio dod o hyd i achos y digwyddiad."
Bydd y crwner yn cael ei hysbysu