Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines - Cofiwch ddathlu’n ddiogel
PostiwydMae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar hyd a lled Cymru i ddathlu bod y Frenhines wedi teyrnasu ers 60 mlynedd.
Mae Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, yn erfyn ar i drigolion ddathlu'n ddiogel. Meddai: "Os ydych wedi trefnu neu yn mynd i ddigwyddiad i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, cofiwch gadw diogelwch mewn cof ynghanol yr holl gyffro."
"Drwy gadw diogelwch mewn cof a pharatoi rhag digwyddiadau posib gallwch helpu i'ch cadw chi a'ch gwesteion yn ddiogel."
Dyma'r cyngor sydd gan Gareth fel na fyddwch yn cofio'r diwrnod am y rhesymau anghywir:
• Gwnewch yn siŵr bod y digwyddiad wedi ei drefnu'n iawn
• Cwblhewch asesiad risg cyn y digwyddiad a gwnewch rywbeth ynglŷn â'r risgiau a ganfyddwch
• Cymrwch ofal wrth ddefnyddio'r barbiciw: gwnewch yn siŵr ei fod mewn cyflwr gweithredol da ac nad ydyw wedi ei osod yn agos at bethau a all fynd ar dân yn hawdd neu mewn man lle bydd pobl yn cerdded heibio. Defnyddiwch danwydd sydd yn addas i'w ddefnyddio ar farbiciw a PHEIDIWCH BYTH â'i adael heb neb i gadw llygaid arno. Tywalltwch ddŵr ar golsion poeth wrth iddynt oeri a thywalltwch y lludw ar bridd yn yr ardd. Ni ddylech fyth â rhoi'r lludw mewn bin olwynion. Dylid defnyddio barbiciws yn yr awyr agored. Peidiwch byth â'u defnyddio y tu mewn. Byddwch yn ymwybodol o wenwyn carbon monocsid.
• Os bydd yn rhaid i chi gynnal eich parti y tu mewn oherwydd y tywydd, peidiwch â gosod baneri neu rubanau yn agos at larymau mwg neu oleuadau, gan fod peryg iddynt boethi.
• Wrth osod byrddau a chadeiriau, meddyliwch am funud ac ystyriwch sut y gallai peiriannau tân a cherbydau brys eraill gael mynediad mewn argyfwng. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhwystro mynediad.
Fe ychwanegodd Gareth: "Os ydych yn bwriadu cynnau ffagl fel rhan o'r dathliadau, yna mae'n rhaid i chi gofrestru eich digwyddiad drwy fynd i http://www.diamondjubileebeacons.co.uk/.
"Os gwelwch yn dda, rhowch wybod i ni ar 01745535805 os ydych yn bwriadu cynnau ffagl, rhag ofn i ni anfon peiriannau tân allan yn ddiangen."