Achub dyn yn Rhosllanerchrugog
PostiwydBu criwiau tân o Wrecsam a Bae Colwyn yn ymdrin â digwyddiad pan gafodd dyn ei ddal yn gaeth o dal beiriant codi baw yn Rhosllannerchrugog am 3.05pm ddydd Gwener 13eg Gorffennaf.
Anfonwyd peiriant, uned achub technegol a'r tîm achub gyda rhaffau at y digwyddiad pan achubwyd y dyn oedd yn gaeth o dan y peiriant codi baw.
Defnyddiodd y criwiau offer achub gyda rhaffau yn ogystal ag offer o'r uned achub technegol i sefydlogi'r dyn a'r peiriant cyn iddo gael ei ryddhau a'i drosglwyddo i ofal y parafeddygon.
Roedd y digwyddiad o dan reolaeth erbyn 4.10pm.