Cyfle i bobl ifanc gael blas ar yrfa fel diffoddwr tân
PostiwydCafodd myfyrwyr o ysgolion ledled Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy gyfle i dreulio pum niwrnod o brofiad gwaith fel diffoddwr tân yn ddiweddar yng ngorsaf dan Porthaethwy.
Bu disgyblion o Wrecsam a Sir y Fflint hefyd yn manteisio ar y cyfle ac yn treulio eu hwythnos yng ngorsaf dan yr Wyddgrug.
Dangosodd y ddau grŵp o bobl ifanc, oedd yn 14 a 15, addewid i fod yn ddiffoddwyr tan y dyfodol.
Yr wythnos hon, mae'r cyrsiau wedi bod yn gyfuniad o sesiynau ffisegol a theori, gan gynnwys amrywiol dasgau. Gweithiodd y myfyrwyr i wneud yr ymarferion ac ymarfer gydag ysgolion, pibellau ac offer eraill a geir ar beiriannau tân, yn ogystal ag atgyfnerthu'r wybodaeth hon gyda mewnbwn technegol yn yr ystafell ddosbarth.
Yn ystod yr wythnos, ymwelodd y disgyblion â'r Ganolfan Gyfathrebu ar y Cyd ble trafodwyd galwadau maleisus a defnyddio adnoddau'n ddiangen.
Cafodd y bobl ifanc gyflwyniad gan staff ategol hefyd ynglŷn â threfniadaeth, a chafodd y myfyrwyr flas ar ddyletswyddau eraill y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Buont yn dysgu hefyd am bwysigrwydd diogelwch tân a phwyslais y Gwasanaeth ar atal tân.
Uchafbwynt yr wythnos oedd gwasanaeth i ddathlu eu cyflawniad yn y gorsafoedd tân, a chyflwyno tystysgrif i'r myfyrwyr o flaen cynrychiolwyr eu hysgolion, teuluoedd a ffrindiau.
Dywedodd Gareth Griffiths, yr Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Rydym yn hynod falch o gael cynnig cyfle i bobl ifanc Gogledd Cymru, ddysgu beth sy'n rhan o yrfa gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd. Maen nhw wedi cael dysgu hefyd am bwysigrwydd gwaith atal tanau ac rydym yn gobeithio y byddan nhw'n gweithredu fel llysgenhadon i ddweud wrth eu teuluoedd a'u ffrindiau am bwysigrwydd cadw'n ddiogel rhag tân.
Ychwanegodd: "Mae'n braf gweld pobl ifanc yn gweithio'n galed ac yn ennill llawer o'r profiad."