Gwrthdrawiad Traffig y Ffordd Angheuol yng Ngwespyr
PostiwydGalwyd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i wrthdrawiad traffig y ffordd angheuol rhwng dau gar ar yr A548 yng Ngwespyr, Treffynnon am 12.00 o'r gloch heddiw, dydd Sul 22 Gorffennaf.
Roedd cyfanswm o naw o bobl yn y ddau gerbyd.
Bu farw un ferch ifanc.
Aethpwyd â saith arall i'r ysbyty ac fe gludwyd rhai ohonynt mewn hofrennydd ac eraill mewn ambiwlans ar y ffordd.
Does dim mwy o fanylion ar gael ar hyn o bryd.