Tân mewn ffatri yn Wrecsam
PostiwydAr hyn o bryd mae diffoddwyr tân yn delio gyda thân mewn ffatri ar Bridge Road, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
Mae criwiau o Wrecsam, Llangollen, y Waun, Glannau Dyfrdwy a Johnstown, a'r Peiriant ag Ysgol ac Esgynlawr o Wrecsam a'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl wedi eu galw i'r digwyddiad i ddelio gyda'r tân a gychwynnodd mewn popty halltu diwydiannol arbenigol.
Mae'r tân bellach dan reolaeth ond mae'r criwiau'n parhau i fod ar y safle'n llethu'r tân.