Tân mewn eiddo yn Llanarmon-yn-iâl - Diweddariad
PostiwydMae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi trin tân yn Llanarmon-yn-iâl.
Galwyd diffoddwyr tân i'r eiddo yn Erw Nant am 18.01 o'r gloch neithiwr, dydd Mercher 25 Gorffennaf, wedi i'r preswylwyr eu hysbysu.
Aethpwyd â dyn 73 oed i'r ysbyty o ganlyniad i'r digwyddiad ac mae wedi ei gludo i Ysbyty Whiston ers hynny, ar ôl dioddef llosgiadau i'w law.
Roedd dynes yn ei 60au hefyd yn rhan o'r digwyddiad ond ni chafodd ei hanafu.
Daeth peiriannau o Ruthun, yr Wyddgrug, Prestatyn a Bwcle at y digwyddiad, ynghyd a dau beiriant o Lannau Dyfrdwy a dau beiriant arall o Wrecsam. Roedd yr Uned Warchod Amgylcheddol o Wrecsam, peiriannau oddi ar y ffordd o Ddinbych, Abergele a Llangollen, uned reoli o Rhyl ac Uned Cymorth Digwyddiad o'r Wyddgrug yno hefyd.
Damwain achosodd y tân - roedd y gŵr wedi bod yn gweithio yn y garej ble cychwynnodd y tân.
Wedi cyrraedd yno, sicrhaodd y diffoddwyr tân bod y preswylwyr yn ddiogel ac yna mynd i'r afael a silindr acetylene oedd yn y garej a oedd ar dan. Lledaenodd y tân yn gyflym o'r byngalo wrth ei hymyl a'r cysgod parcio car.
Aeth timau o ddiffoddwyr tân yn gwisgo offer anadlu a chyda phibellau a jetiau dŵr ati i ddiffodd y tân, ac roedd o dan reolaeth erbyn 05.50 o'r gloch yn oriau mân y bore (26ain Gorffennaf). Roedd angen y nifer hwn o beiriannau i ymdrin â'r digwyddiad oherwydd bod angen cludo dŵr yno. Difrodwyd o leiaf chwe pheiriant yn ceisio cyrraedd y lleoliad.
Mae'r eiddo, sydd mewn ardal wledig anghysbell, wedi cael difrod difrifol yn y digwyddiad.
Mae ymchwiliad ar y gweill ar hyn o bryd i union fanylion ac achos y tân.