Rhybudd am ddiogelwch trydanol yn dilyn tân mewn peiriant sychu dillad yn Wrecsam
PostiwydCafodd teulu o bump ddihangfa wyrthiol ar ôl iddynt gael eu deffro gan dân a achoswyd gan nam trydanol mewn peiriant sychu dillad.
Cafodd y teulu - rhieni a thair o ferched 3, 7 a 9 mlwydd oed - eu cludo i'r ysbyty am driniaeth ragofalol. Cawsant eu rhyddhau o'r ysbyty'n ddiweddarach.
Cafodd dau griw o Wrecsam eu galw i'r eiddo yn Llandegla am 01.26 o'r gloch (Dydd Gwener 6ed Gorffennaf). Roedd y difrod tân wedi ei gyfyngu i'r peiriant sychu dillad ond cafwyd difrod mwg yn yr ystafell amlbwrpas.
Meddai Bob Mason o Wasanaeth Tân ac achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad yn amlygu peryglon tanau trydanol - gallant ddigwydd ar unrhyw adeg, yn unrhyw le.
"Mae'n bwysig eich bod yn paratoi rhag tân. Gwnewch yn siŵr bod gennych larymau mwg yn eich cartref a bod eich llwybrau dianc yn glir er mwyn eich galluogi chi a'ch teulu i adael yr eiddo cyn gynted â phosib. Peidiwch fyth â cheisio diffodd y tân eich hun - ewch allan, arhoswch allan a galwch y gwasanaeth tân ac achub allan.
"Dyma ychydig o gyngor i'ch helpu i gadw'n ddiogel rhag tân trydanol yn y cartref;
- PEIDIWCH Â gorlwytho socedi
- COFIWCH wneud yn siŵr nad ydy'r gwifrau wedi gwisgo neu raflo
- COFIWCH dynnu plwg yr holl gyfarpar nad ydych yn eu defnyddio
- COFIWCH gadw'r holl gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da
- Diffoddwch yr holl gyfarpar cyn mynd i'r gwely
"Cofiwch fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim ac , os oes raid, yn gosod larymau mwg am ddim. Galwch 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk i drefnu o aelod o staff ddod i'ch cartref a chynnig cyngor diogelwch tân penodol i chi a phawb sy'n byw yn eich cartref."