Digwyddiad cemegol yn Llangefni
PostiwydMae'r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i ddigwyddiad ar Ystâd Ddiwydiannol Llangefni, Ynys Môn
Fe anfonodd Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru saith o beiriannau tân ( o Langefni, Bangor, Caergybi, Porthaethwy a Rhosneigr) yn ogystal â thri pheiriant arbenigol ( yn cynnwys yr Uned Amddiffyn yr Amgylchedd o'r Rhyl) i'r digwyddiad am 21.09 o'r gloch heno ( Dydd Llun 13eg Awst). Roedd staff o Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol.
Cafodd rhywfaint o nwy amonia ei ryddhau o'r safle cynhyrchu bwyd ar yr ystâd ddiwydiannol
Fe wisgodd y diffoddwyr tân ddillad gwarchodol ac offer anadlu i ynysu ac atal y gollyngiad rhag lledaenu i fannau eraill ar y safle drwy wasgaru dŵr ar y cwmwl anwedd.
Fe gynghorwyd trigolion lleol i beidio â mentro allan a chadw ffenestri a drysau ynghau hyd nes y byddai hysbysiad pellach.
Roedd 20 o bobl yn gweithio ar y safle ar y pryd, a llwyddodd pob un i adael yr adeilad yn ddiogel.
Yn achos digwyddiadau o'r fath, rhan o'r drefn arferol yw gwneud yn siŵr bod trefniadau mewn lle i sicrhau bod unrhyw un sydd yn dioddef o symptomau cysylltiedig (ee llygaid yn dyfrio) yn derbyn triniaeth ac yn cael ei ddadhalogi yn y fan a'r lle cyn cael ei gludo i'r ysbyty os oes angen.
Fe dderbyniodd bedwar o drigolion lleol - dau oedolyn a dau blentyn - a oedd yn dioddef o'r fath symptomau driniaeth gan barafeddygon yn y fan a'r lle. Cafodd pobl eraill a oedd mewn clwb cymdeithasol lleol hefyd eu cynghori i gael triniaeth os oeddent hwythau'n dioddef o'r un symptomau.
Bydd y gwasanaethau brys yn aros yn y fan tra bod asesiadau pellach yn cael eu cwblhau.