Y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn cefnogi ymgyrch allweddi ceir mewn ymgais i leihau nifer y tanau bwriadol yn y sir
PostiwydMae'r Tîm Lleihau Tanau Bwriadol yn cefnogi ymgyrch 'Allweddi Ceir' Heddlu Gogledd Cymru. Bydd Diffoddwyr tân yn ymweld ag archfarchnadoedd yn ardal Wrecsam dros yr wythnos nesaf.
Dyma ymgais i leihau nifer y cerbydau sy'n cael eu rhoi ar dân yn y sir oherwydd eu bod wedi cael eu dwyn a'u gadael.
Heddiw roedd ein diffoddwyr tân yn archfarchnad Morrisons lle buont yn rhannu taflenni a chyngor. Byddant yn ymweld â lleoliadau eraill yn y dref dros yr wythnosau nesaf.
Mae Kevin Jones, Rheolwr y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn egluro mwy: "Mae nifer o geir sydd wedi eu dwyn yn cael eu rhoi ar dân er mwyn cael gwared ar dystiolaeth. Yn aml iawn mae diffoddwyr tân yn treulio oriau maith yn delio gyda'r tanau bwriadol hyn, gan roi eu bywydau hwy a bywydau'r trigolion lleol yn y fantol.
"Mae cydweithio yn rhan bwysig iawn o'n gwaith - a dyma pam bod ein diffoddwyr tân yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â throseddau ceir sydd yn aml iawn yn arwain at achosion o losgi bwriadol.
"Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o wneuthurwyr ceir wedi rhoi mwy o bwyslais ar ddiogelu cerbydau ac wedi gosod systemau soffistigedig mewn cerbydau i atal lladron rhag eu dwyn. O ganlyniad mae lladron wedi meddwl am ffyrdd gwahanol o fynd ati i ddwyn ceir - fel dwyn yr allweddi.
"Mae'n bwysig iawn bod perchnogion ceir yn ymwybodol o hyn a'u bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal lladron rhag dwyn eu hallweddi. Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i'w hatal - megis parcio'ch car mewn garej diogel dros nos, cloi'r drws ar ôl i chi fynd i mewn i'r tŷ a pheidio â gadael eich allweddi yn agos at ddrysau neu ffenestri.