Larwm mwg am ddim yn rhybuddio cymdogion yn Ninbych
PostiwydCafodd dynes o Ddinbych ddihangfa lwcus o dân yn ei chartref wedi i larymau mwg a osodwyd gan ddiffoddwyr tân rybuddio ei chymydog yn ystod yn ystod oriau mân y bore yma.
Cafodd criw o Ddinbych a Llanelwy eu galw i'r eiddo ar Stryd Henllan, Dinbych am 04: 11 o'r gloch y bore yma, Dydd Gwener 3 Awst, gan gymdogion a glywodd y larwm mwg yn seinio.
Cychwynnodd y larwm ganu wedi i fwyd gael ei adael yn coginio heb neb i gadw llygaid arno.
Fe rybuddiodd y cymydog y preswylydd, a dynnodd y bwyd oddi ar y gwres.
Cafodd y larymau mwg eu gosod gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel rhan o'u harchwiliad diogelwch tân yn y cartref.
Meddai Bob Mason o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Unwaith yn rhagor, mae'r digwyddiad hwn yn dangos sut y gall larymau mwg arbed bywydau. Pe na fyddai'r larwm mwg wedi seinio a rhybuddio'r cymydog, gallai'r tân fod wedi bod yn llawer mwy difrifol.
"Rydym yn annog pobl i beidio â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno, hyd yn oed am eiliad. Rydym hefyd yn annog pobl i adael yr adeilad ar unwaith os clywant y larwm mwg yn seinio - ewch allan, arhoswch allan a galwch y gwasanaeth tân ac achub.
"Mae'r preswylydd yn ffodus iawn bod ei chymydog wedi clywed y larwm ac wedi ymddwyn fel ac y gwnaeth - hoffwn ei ganmol am gysylltu â'r gwasanaeth tân ac achub ar unwaith ac am helpu i amddiffyn ei gymydog yn y modd hwn.
"Er mwyn diogelu eich anwyliaid, fe'ch anogwch i gymryd mantais o'n harchwiliadau diogelwch tân yn y cartref. Bydd aelod o'r gwasanaeth ynn dod i'ch cartref, cwblhau asesiad diogelwch tân ac, os oes raid, yn gosod larymau mwg am ddim.
"Mae'r archwiliadau hyn yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Os oes gennych ffrind, berthynas neu gymydog a fyddai'n elwa o'r archwiliadau hyn, rhowch wybod iddynt am y gwasanaeth sydd ar gael a rhannwch eu manylion cyswllt gyda ni. Mae achub bywyd yn anrheg amhrisiadwy."
Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch 0800 169 1234 neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk a gadewch eich manylion cyswllt. Bydd aelod o'r Gwasanaeth yn cysylltu â chi i drefnu archwiliad ar adeg sydd yn gyfleus i chi.