Hwyl i’r teulu mewn noson agored yng Ngorsaf Dân Aberdyfi
PostiwydBydd Gorsaf Dân Aberdyfi yn agor ei drysau i'r cyhoedd nos Iau, 16eg Awst, ac fe wahoddir trigolion lleol ac ymwelwyr i ddod draw i'r orsaf am noson o hwyl yn rhad ac am ddim.
Bydd y noson, sydd yn cychwyn am 6:30pm, yn cynnwys adloniant i blant megis castell bownsio a gêm 'gwlychu'r diffoddwr tân', yn ogystal ag arddangosiadau gan ddiffoddwyr tân ac arddangosfa yn dangos peryglon rhoi dŵr ar sosbenni sglodion sydd ar dân.
Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, yn ogystal â derbyn cyngor diogelwch tân a chyfle i gael gweld y peiriannau tân yn yr orsaf.
Meddai Louis Hiatt, un o'r trefnwyr: "Hoffem weld cymaint o bobl â phosibl yn cefnogi eu gorsaf dân leol drwy ddod i'r noson agored. Bydd gennym lawr o weithgareddau a digwyddiadau i ymwelwyr o bob oed.
"Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb!"