Gorsaf Dân yn ail-lansio’r Clwb Cinio
PostiwydCroesawyd pobl hŷn i Orsaf Dân Dolgellau yr wythnos hon lle cynhaliwyd y Clwb Cinio cyntaf ar gyfer 2012 - clwb i bobl leol dros 55 mlwydd oed.
Lansiwyd y clwb misol hwn am y tro cyntaf yn 2010, ac roedd yn boblogaidd iawn ymysg trigolion lleol. Cafodd y clwb ei ail-lansio ddydd Mercher, Medi 13 ac roedd y pensiynwyr lleol wedi gwirioni.
Mae'r clwb yn cael ei drefnu gan Glwb Rotari Dolgellau a Delwyn Evans, cyn faer y dref, ynghyd â chefnogaeth gan staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Delwyn Evans: "Yn aml iawn mae heneiddio'n gysylltiedig ag anabledd neu golli annibyniaeth. Yn aml iawn mae amhariadau megis problemau symudedd neu golli clyw neu olwg yn golygu na all pobl fynd o le i le fel ac yr oeddent yn arfer ei wneud ac o'r herwydd mae nifer o bobl yn teimlo'n unig.
"Fe benderfynom sefydlu'r Clwb Cinio er mwyn rhoi cyfle i drigolion hŷn fyw bywyd cymdeithasol iach ac annibynnol gyhyd ag y bo modd, a sicrhau eu bod yn derbyn prydau bwyd iachus a ffres."
Fe ychwanegodd Celfyn Evans, Arweinydd y Tîm Diogelwch Cymunedol dros Wynedd ac Ynys Môn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Fel Gwasanaeth Tân ac Achub rydym yn awyddus iawn i weithio gyda'r gymuned a thrwy gynnal y Clwb Cinio yn yr orsaf dân cawn gyfle i siarad gyda phobl leol fregus a hŷn er mwyn ei hysbysu am bwysigrwydd diogelwch tân yn y cartref.
"Mae'r fenter newydd hon yn ganolog o safbwynt meithrin perthynas glos gyda thrigolion hŷn a rhannu cyngor a gwybodaeth allweddol a all achub bywydau'r bobl sydd yn mynychu'r Clwb Cinio yn ogystal â'u ffrindiau a'r bobl y maent yn eu hadnabod."
Roedd Elsie Jones, 84 o Ardd Fawr Dolgellau yn bresennol yn y clwb cinio cyntaf ynghyd â'i chwaer Adelaide Cleridge. Meddai: "Rydym wedi mwynhau'r cinio'n arw ac mae wedi bod yn braf cael cyfle i weld hen ffrindiau a chwrdd â phobl newydd.
"Mae yn ffordd dda o gael gafael ar wybodaeth ar sut i gadw mor ddiogel â phosibl yn y cartref."
Mae'r partneriaid sydd ynghlwm â'r fenter hon yn cynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Aelodau o Dîm Plismona Cymunedol Meirionnydd, Clwb Rotari Dolgellau, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor ar Bopeth Gwynedd, Cyngor Cymunedol Dolgellau, a chynrychiolwyr pobl hŷn o Ddolgellau.
Mae'r Clwb Cinio yn yr Orsaf Dân yn rhoi cyfle i bobl o Ddolgellau a'r cyffiniau brynu pryd o fwyd tri chwrs ar ddyddiau Mercher pob mis, yn ogystal â gwrando ar gyflwyniadau ar bynciau perthnasol. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd gan y bobl hŷn syniadau ar gyfer y math o weithgareddau yr hoffent i ni eu cynnal.
Gan fod llefydd yn brin, cynghorir pobl i archebu lle drwy gysylltu â'r Cynghorydd Delwyn Evans, ar 01341 422 498.
Mae modd cyrraedd yr orsaf drwy fynd ar Fws y Dref sydd yn stopio ger yr Orsaf Dân am 11.36am ac yn gadael am 13.36pm ac 14.31pm.